Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 596. AWST, 1876. Pbis lc. Y MIS. GAN Y PARCH. H. WILLIAM3, LLANILLTYD FARDREF. 1. Yr enio. Y mae yn dra thebyg fod Awst, enw Cymreig y mis hwn, yn dyfod oddiwrth Augustus.Ymerawdwr Rhufain, yr hwn a roddodd ei enw ei hun ar y mis, yn lle yr hen enw Sextüis=y chweched, a geid arno. Y mae hyn yn amlycach fyth yn enw Seis'nig y mis, August. Nid oes yma ond ych- ydig gyfnewidiad, sef cymmeryd y diweddiad Llatinaidd us ymaith. 2. Gioyliau ac ymprydìau. Awst laf, gwyl Lammas. Ceir hwn yn rhestr gwyliau eglwys Loegr. Y mae yn orchwyl anhawdd i'w benderfynu beth yw ystyr yr enw Lammas, ac felly pa beth a olygid wrth gadw yr wyl hon. Dywed rhai mai Lamb-mass=\lith yr oen, yw yr enw yn briodol ; ereill a darddant y gair o La-ith-mass=gwyl y bara, am fod y cyn- hauaf yn awr yn dechreu. Yn yr ieithoedd Celtaidd, ith yw yr enw ar bob math o rawn, yr un modd ag y mae y gair ŷd gyda ni. Ceir y gair hwn eto yn aros gyda ni mewn geiriau cyfansawdd, megys gwen-ith. Ereill a wnant y gair yn Loaf- «iass=llith y dorth ; hlafmasse y Saesonaeg. Y gair hlaf yn golygu torth, a masse yn golygu gwyl neu wledd. Yn unol â'r ystyron olaf, dywedir y byddai yr hynafiaid yn parotoi torth neu fara o ŷd newydd i'w hoffryrau ar y dydd' cyntaf o Awst. Yn yr hen amser byddai yn rhaid i holl ddeiliaid tirol perthynol i Eglwys Gadeiriol Caerefrog ddwyn oen byw i'r