Skip to main content

YR ATHRAW. Rhip595. GORPHENAF, 1876. Peis lc. Y MIS. GAN Y PARCH. H. WILLIAM8, LLANILLTYD FARDREF. 1. Yr enw. Yr hyn a gyflea y gair Gorphenaf yw, fod tegwch a gwres yr haf yn eu man uchaf, ac nid fod yr haf yn terfynu. Gor-pen-haf yw y gair; ac yn ol yr ystyr a nodwyd, ar y sill canol y dylid rhoi y pwyslais. Y mae enw Saes'neg y mis, July, yn deilliaw o'r Lladin, Julius, sef cyfenw Csesar— Julius, Iwl y Cymry, yr hwn a anwyd yn y mis hwn. Cyn dyddiau Caesar galwai y Rhufeiniaid ef yn üuintilis, yn her- wydd mai hwn ydoedd y pummed mis yn mlwyddyn Romulus. 2. Gwyliau ac ymprydiau. Y mae yn briodol i nodi nad oedd yr un o wyliau neillduol yr Iuddewon yn y mis hwn nag yn y diweddaf. Gorphenaf 2il, ymweliad Mair y Forwyn. Cedwir hon yn Eglwysi Rhufain a Lloegr. Y Pab Urban VI. a'i sefydlodd, er coffadwriaeth am ymweliad Mair â mam Ioan Fedyddiwr. Pa adeg ar y flwyddyn y cymmerodd yr ymwel- iad hwn le, nid oes neb yn gwybod; ac o ganlyniad, nid oes y sail leiaf i'r wyl hon o ran ei hamseriad. 3ydd, St. Martin Esgob. Ceir hon yn rhestr gwyliau Eglwys Loegr. 3ydd, dechreu dyddiau'r cŵn. Parha yr amser sydd yn myned dan yr enw hwn hyd Awst lleg. Dywedir y byddai y Rhufein- iaid yn aberthu ci llwyd neu wineu yn flynyddol i Canicula, neu Seren y Ci ar ei chyfodiad cyntaf, er lliniaru ei digllonedd. Tybid yn ffol mai hi oedd yn achosi gwres eithafol diwedd yr