Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 591. MAWRTH, 1876. Peis lc. IOSIA, Y BRENIN IEUANC DUWIOL. GAN Y PARCH. C. E-AYIES, BANGOR. ERTHYGL II. Mae amryw ragoriaethau yn y brenin ieuanc hwn sydd yn teilyngu ein sylw. Efe a geisiodd yr Arglwydd yn moreu eì oes. " Tra yr ydoedd efe eto yn fachgen," &c. Ni threuliodd foreu ei ddydd mewn oferedd, gyda'r dybiaeth ofer y byddai yn Uawn ddigon buan iddo geisio crefydd ar ol cyrhaedd oedran gŵr. Yr wyf yn galw y cyfryw dybiaeth yn un ofer; oblegyd yr wyf wedi sylwi mai y rhai sydd barotaf i oedi y mater hyd oedran gŵr, yw y rhai parotaf ar ol cyrhaedd yr oedran hwnw i'w oedi wed'yn hyd hen ddyddiau, a'i oedi nes yn rhy ddiweddar. Nid oes un esgus dros yr oedi hwn ; mae yn ymgodi yn hollol oddiar anewyllysgarwch calon i gydnabod yr Arglwydd, ac nid yw ond anufydd-dod gwirfoddol i orchymynion eglur y Breniu mawr. Cydnabyddodd Iosia fod gan yr Arglwydd hawl i holl wasanaeth ei fywyd, a chydnabyddodd hyny mewn pryd. Gresyn mawr yw fod dynion yn treulio amser goreu eu bywyd cyn dyfod i gydnabod hyn, pan na bydd ganddynt yn aros i'w roi i Dduw ond rhyw weddillion tlawd o'u bywyd. Ddarllenydd ieuanc, efelycha Iosia ; cydnebydd yr Arglwydd mewn pryd, cyn i amser goreu dy einioes lithro o'th afaeì. Cofia, yn ngeiriau y bardd, mai