Skip to main content

PENAU TEULUOEDD, a'b YSGOL SABBOTHOL. Ymddiddan rhwng Athraw, a Thyddymor, a'i Wraiç, ébc. PENNOD I. Ar brydnawn oer, yn ddiweddar, galwodd Robert Davies athraw yr Ysgol Sabbothol, yn y Tyddyn coch—lle y pres- wyliai William Jones a'i wraig, a'i blant, ac amryw wasan- aethwyr. Agorwyd y drws gan y tyddynwr ei hun, a chyf- archai ei gymmydog yn siriol, — "Robert Davies, ai chwi sydd yna ? Sut yr ydych ? a sut y mae y teulu ?" Athraw. —Yn iach, diolch i chwi, sut y mae y teuiu yma ? Tyddynwr.—Yn iach, yn iach, diolch i chwi ; deuwch i fewn. Ni welais i ìno honoch er's dyddiau. Mi glywais fod John ac Elin, eich plant, yn rhai hynod am ganu. Yr ydw i yn hoff ryfeddol, welwch chwi, o ganu; ac mi fyddai dda dros ben genyf eu clywed nhw a'r plant eréíll yn myn'd dros rai o'u tônau. Ni welsoch chwi erioed rai salach am ganu na'r plant yma. O ba le yr ydych yn dyfod? A wnewch chwi gymmeryd tamaid, osgalwaf fi ar un o'r merched ? Athr.—Diolch i chwi, yr ydwyf wedi bod yn bwyta wrth ddychwelyd o'r claddedigaeth. Tydd.—Claddedigaeth! Pwy oeddych yn eigladdu? Athr.—Emma Thomas, o'r Fron ; a buasech yn synu y fath gynhebrwng mawr a pharchus a gafodd, wrth ystyr- ied mai gwraig dlawd oedd hi. Ond ni chafodd ei choff- adwriaeth ddim mwy o barch nag yr oédd hi yn ei haeddu fel dynes dda, ac yn neillduol fel athrawes ffyddlawn er ys llawer iawn o flynyddoedd ar ddosbarth o enethod ieu- aingc yn yr Ysgol Sabbothol. Bu yn ymdrechgar a^íiwyd yn dysgu tô ar ol tô; ac ni welsoch chwi erioed ddim yn fwy prydferth, ac effeithiol ar y teimlad, na'r olwg ar ei hysgolheigion ieuaingc yn côrdded bob yn ddwy o^flaen yr elor—yna yn ymranu yn ddwy garfan yn y fynwent, Cyfbes yr Ysgol Sabbothol. Bhif ],