Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 576. RHAGFYR, 1874. Pris lo. DYDD NADOLIG. CEDWIR y dydd uchod gan holl wledydd cred ar y 25ain o fis Rhagfyr, er nad yw hyny wedi ei gofnodi mewn hanesyddiaeth gyssegredig nac annghyssegredig mor bell ag yr ydym yn gwybod. Ond ymddengys na chymmerodd yr amgylchiad o enedigaeth Crist le mor ddiweddar yn y flwyddyn a mis Rhagfyr, nac ychwaith yn y gauaf o gwbl, a hyny am ddau reswm o leiaf. Yn un peth, dywed Luc yr efengylwr, fod y bugeiliaid allan yn y maes, yn gwylied eu praidd liw nos yn nghymmydogaeth Bethlehem, ar yr amser y ganwyd y mab bychan: a dywed haneswyr nad oedd y bobl yn cadw eu hanií'eiliaid allan yn y nos yn ngwlad Iudea, o dan unrhyw amgylchiad, yn ddiwedd- arach na mis Hydref. Os felly, ganwyd y mab bychan yn gynarach yn y flwyddyn na mis Rhagfyr. Peth arall, yn y cofrestriad y sonia Luc am dano, mewn cyssylltiad â genedigaeth y mab bychan, gorfodid y gwahanol deuluoedd Iuddewig i ddychwelyd i'r dinasoedd perthynol i'r llwythau o ba rai yr oeddynt yn disgyn. Daethai rhai o honynt o bell, fel Ioseph a Mair o Nasareth yn Galilea, 80 milltir o ffbrdd i Bethlehem, dinas Dafydd, am eu bod o dŷ a thylwyth Dafydd. Nid yw yn debyg i'r cofrestriad gymmeryd lle yn y gauaf, am y rheswrn fod teithio yn ngwledydd y Dwyrain yn y gauaf yn beth peryglus ac anhawdd; fel y dywedai ein Hiachawdwr wrth breswylwyr Ierusalem,— " Gweddiwch na byddo eich ffoedigaeth yn y gauaf." Pahani