Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 575. TACHWEDD, 1874. Peis lc. Y TRI BEDYDD. GAN RUFÜS. «\fi* MAE Ioan Fedyddiwr yn Mat. iii. 11. a Luc iii. 16., yn tÜÌi son am **" bedydd: bedydd dwfr, bedydd yr Ysbryd, J!£2il a bedydd tân. Gwnawn sylwadau byrion amynt. I. BEDYDD DWFR. Nid ydym yn cael bedydd, fel ordinhad grefyddol, yn cael ei gweinyddu ar ddeiliaid yr un grefydd yn flaenorol i'r grefydd Gristionogol. Nid ydym yn cael hanes am y fath beth yn mhlith y Cenedloedda'u crefyddau lawer, nac ychwaith yn mhlith yr Iuddewon a'u crefydd ddwyfol. Ofer yw son am fedydd proselytiaid yn flaenorol i'r efengyl. Nid ydyw cyfraith Moses yn gwybod dim am y fath beth. Ioan oedd gweinyddwr cyntaf bedydd fel ordinhad grefyddol, ac am hyny y gelwid ef, " Y Bedyddiwr," a'r ordinhad ei hun yn "Fedydd Ioan." Y mae gofyniad y Lefiaid i Ioan yn dysgu hyn yn eglur iawn, gallem ni feddwl. Dull bedydd yr efengyl yw trochiad. Y mae y lleoedd a ddewisid i weinyddu bedydd gan loan, Crist, yr apostolion, ac ereill, yn ol yr hanes yn y Testament Newydd yn profì hyn. Hefyd, y mae hanes Ioan a Phylip yn bedyddio yn profi hyn. Hefyd, y maë y cyffelybiaeth.au a ddefnyddir gan Paul a Phedr i osod allan fedydd yn dysgu hyn. Hefyd, y mae hen fedydd-fanau mewn hen wledydd