Skip to main content

YR ATHRAW. Rhif570. MEHEFIN, 1874. Peis lc. IESU A SACCHEUS. Luc xix. 1—10. GAN RÜFUS. Gair am Ierieho. Ç^lAFODD Moses, oddiar ben Pisga, olwg ar ddyffryn [l|yí Iericho. Saif y ddinas ryw saith milltir o du Gorllewin «536 i'r Iorddonen, ac yn agos i ugain milltir o Ierusalem. Yn agos i Iericho y croesodd plant Israel yr Iorddonen, pan feddiannasant Wlad Canaan; a Iericho oedd y ddinas gyntaf a gymmerwyd ganddynt o dan Ioshua oddiar y Canaaneaid. jj (Ios. iii. 16. iv. 20—26.) Beth am y felldith a gyhoeddwyd gan Ioshua,—am Hiel yn ail adeiladu y ddinas yn mhen tua 620 mlynedd wedi hyny, ac am y felldith a ddisgyhodd arno ? (1 Bren. xvi. 34.) Bu yn Iericho athrofa—ysgol y prophwydi enwog iawn. (2 Bren. ii. 5.) Yr oedd fFynnon o ddwfr afìachus gerllaw y ddinas : iachâodd a phereiddiodd Eliseus y ffynnon, ac y mae y dwfr yn para felly hyd heddyw. (2 Bren. xvi. 21.) Gelwid Iericho hefyd "Dinas y palmwydd," (Deut. xxxiv. 3.) am fod cyflawnder mawr o'r coed hyny yn y gwas- tadedd ëang a ffrwythlawn lle y safai, (Ios. iv. 13.) ac hefyd ar hyd cyflìniau y ffordd oddi yno i Bethania a Ierusalem. Harddwyd y ddinas yn fawr gan Herod Fawr; canys efe a ychwanegodd lawer o adeiladau gorwychion ati, ac yn eu my8g frenin-lys iddo ei hun. Trigai rhyw 12,000 o offeiriaid a Lefiaid yn Jericho. Yr oedd felly yn un o drefydd pwysicaf Palestina, yn nesaf at Ierusalem mewn maintioli, ac yn dwyn