Skip to main content

YR ATHRAW. Rhip 569. MAI, 1874. Pris lc. HUNANYMWADIAD. )AE ein testyn yn un gwir bwysig. Cynnwysa un o | brif rijiweddau y gwir Gristion. Ŵrth ystyried /i<Así> hyny, teimlwn yn wylaidd i draethu ein llen arno o gwbl. Dichon nad yw ein gwybodaeth o'r rhesymau a ddefn- yddir dros y pwnc yn ddigonol i'n galluogi i wneyd cyfiawn- der âg ef i'r graddau y dymunem, fel ag i roddi boddlonrwydd arno, hyd y nod i'n meddwl ein hunan. Pa fodd byuag am hyny, cynnygiwn ymdrin âg ef yn ngoleuni yr Ysgrythyr, gan gymmeryd yn arwyddair, "At y gair, ac at y dystiolaeth." Mae y pwnc hwn, feddyliwn, fel pob pwnc arall perthynol i grefydd, i sefyll neu syrthio wrth y maen prawf hwn. Ystyr y gair ymwadu, y w, aacâu, gomedd, pallu, ymwrthod, rhoi nàg i unrhyw beth, neu haeru yn erbyn peth. Y geiriau gwrthgyferbyniol ydynt balchder ac htmanoldeb. Hunanymwadiad ynddo ei hun ydyw, dyn yn gwadu, neu yn ymwrthod âg ef ei hun. Nid gwadu ei fodola"eth a feddylir; nis gall neb wadu ei fodolaeth, heb ar yr un pryd wadu Awdwr bodolaeth, hyny sydd annichonadwy. "Os ydym ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlawn: nis gall efe wadu ei hun." « Ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Ond hunanymwadiad ynddo ei hun, yn ol ystyr helaethaf y gair, ydyw, dyn yn gwadu, neu yn ymwrthod â phob peth ag sydd yn foddhaol gan ei natur lygredig ef ei hun; nid yn unig pethau pechadurus ynddynt eu hunain, ond pethau çyfreith- lawn hefyd, os byddant ar ei ffordd ac yn rhwystr iddo ganlya