Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 567. MAWRTH, 1874. Pbis lc. MERCH FACH DDUWIOL. ^3'NW y ferch fach uchod oedd Maria Ellin Williams. Merch ydoedd i Robert a Maria Williams, Coedpoeth ; ^*2^ y tad yn aelod a diacon yn eglwys y Bedyddwyr yn yr un lle. Ganwyd hi Mai 20fed, 1S67, a bu farw Ionawr 14eg, 1874, yn cyrhaedd ei saith mlwydd oed. Ei chlefyd ydoedd Scarlet fever, a chafodd gystudd caled, nes iddi gael ei rhydd- hau gan angeu oddi wrtho. Nid ein hamcan yn y cofiant byr hwn yw nodi ffeithiau mewn cyssylltiad â'i bywyd bach yn y byd, o herwydd nid oes ond ychydig o'r rhai hyny i'w cael, gan fod ei bywyd wedi cilio ymaith gydag iddo ymagor. Ein hamcan, gan hyny, yw nodi rhai nodweddau a berthynai iddi fel plentyn bach, serchog, deailgar, a duwiol, gan hyderu y caiíf ei nhodweddau eu hefelychu gan yr holl blant hyny sydd yn arfer daiilen yr Athhaw. 1. Yr oedd yìi eneth fach amcyl a serchog. Yr oedd ynddi lawer o bethau ag oedd yn ei gwneyd yn serchog ac anwyl gan bawb a ddeuai i gyssylltiad â hi. Yr oedd ei phrydferth- wch naturiol yn un elfen, ac hefyd ei hymddyddanion pert, yn nghyda'r gallu hwnw i fyned i fynwes y rhai a'i hadwaenai. Mae y nodweddau hyn mewn plant fel ag mewn dynion, yn eu gwneyd yn llawer mwy hoíf a serchog yn ein golwg, na'r plant a'r dynion hyny sydd yn amddifad o honynt. Ceir rhai plant fel dynion, nad oes modd eu hofii, na rhoddi lle iddynt yn. ein serchiadau; ond yr oedd y ferch fach hon fel arall, yn llawn o nodweddau naturiol, fel yr oedd yn denu pawb, bron,