Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 566. CHWEFROR, 1874. Pris lc. BELSASSAR A'I WLEDD. ^A^ÎiR oedd cwymp a dinystr Babilon wedi eu rhagfynegi lawer fcSÊ/l 0 flynyddoedd cyn i hyny gymmeryd lle ; ac ar adeg ^-^^ gwledd Belsassar y sylweddolwyd y brophwydoliaeth, pan y gwelodd y brenin y darn llaw ar galchiad y pared. Daeth Cyrus, y Persiad, oddeutu dwy flynedd cyn y wledd hon yn erbyn Babilon; ac wedi iddo orchfygu Belsassar, mewn brwydr galed tu allan i furiau y ddinas, gorfu i'r brenin ffoi i'r ddinas am ddiogelwch. Yr oedd Babilon yn un o'r dinasoedd mwyaf gorwych a chadarn a fu yn y byd erioed, ac yr oedd yr afon fawr Euphrates yn un o'i hamdditfynfeydd goreu. Yn yr ail flwyddyn fe gymmerodd Cyrus y ddinas, ar ol llafur ac ymdrech caled, a hyay ar noson gwledd Belsassar. Mae hanes gorchfygiad Babilon gan Cyrus yn taflu llawer o oleuni ar y bummed bennod o Daniel, yr hon sydd yn cynnwys hanes am wledd a marwolaeth Belsassar. Nid manylu ar oresgyniad y ddinas, na'i gyssoni â'r amgylchiad dan sylw yw ein hamcan yn yr ysgrif hon, ond galw sylw at ymddygiad Belsassar yn y wledd hòno. I. Darlünia fawredd ei bechadurtjsrwydd a'i anystyr-- IAETH. 1. Mae yn dangos rhyfyg pechadurus. Yr oedd yn dangos trwy y wledd ei fod wedi annghofio pob cyfrifoldeb i Dduw, ac wedi rhyfygu cyflawni y pethau gwaethaf yn ymyl y perygl mwyaf. Dywedir fod ei holl fywyd yn un anfoesol a