Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. IlniF 505. IONAWR, 1874. Peis lc. FFYDDLONDEB DÜW. rr/jíìYMMERIAD gogoneddus perthynol i'r Duw mawr yw JJ-W ei ffyddlondeb. Mae ffyddlondeb Duw yn berffaith, Ŵ2e fel ag y mae pob rhinwedd arall ynddo. Edrychwn ar y ÿ'-i^ pethau canlynol fel prawfion o ffyddlondeb Duw. & I. Ei anngiiyfnewidioldeb. Mae annghyfnewidioldeb Duw yn sylfaen i'w ffyddlondeb. Nid oes cyfneAvidiád na chysgod troedigaeth ynddo ef. Mae Duw yr un o ran ei hanfod erioed. Ydwyf tragywyddol yw efe; fel nad yw amser ddim yn ei olwg, nag yn effeithio dim arno. Heddyw tragy- wyddol yw pob peth yn ngolwg Duw. Mae pob peth arall yn cyfnewid, ac yn agored i gyfnert-idiadau parhaus. Nid oes dim sefydlog ond Duw. Mae y byd yn cyfnewid naill oes ar ol y llall. Mae dyn yn cyfnewid o ran ei amgylchiadau, ei gorph, a'i feddwl; ond am Dduw, mae efe yn parhau yr un o hyd. Nid yw yn cyfnewid o ran ei brydferthwch; mae mor brydferth heddyw ag erioed, a bydd felly yn mhen miliynau o oesau eto i ddyfod. Mae ieuengtyd tragywyddol yn nod- weddu cymmeriad y Duw mawr. Nid yw byth yn heneiddio. Rhydd y Salmydd ddarluniad hardd o hono fel Duw digyf- newid a ffyddlon, ac fel un sydd yn parhau. yn ei brydferthwch. Dywed fod y nefoedd a'r ddaear yn myned heibio ac yn heneiddio. "Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy