Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhip564. RHAGFYR,, 1873. Peis lc. RHAGFYR. )EL, fy mhlant i, y mae amser yn myned heibio megys ar adenydd yr awel; a chan mai yr Athraw hwn yw yr olaf a dderbyniwch y flwyddyn hon, tybiais nad anfuddiol fyddai cymmeryd y mis olaf yn y flwyddyn i sylwi arno, am fod ynddo amryw o bethau pwysig na fyddai yn anfuddiol i sylwi arnynt. Mis a thywydd cyfnewidiol iawn ynddo ydyw. Un diwrnod cewch y trigolion yn llochesu yn eu tai, neu yn gorfod cym- meryd gwlawlen gyda hwynt allan, am fod y gwlaw yn ymdywallt i lawr o'r cymmylau. Diwrnod arall ceir gweled yr eira yn disgyn yn drwchus ar y ddaear; diwrnod arall ceir gweled y llanciau yn ymlithro ar hyd y rhew, ac y mae yn naturiol i mi feddwl fod llawer o honoch yn ymddigrifo yn y gwaith, fel y bum fy hunan pan yn ieuanc; ac nid oes niwaid ynddo, ond bod yn ofalus, a pheidio ei wneyd i ormodedd; oblegyd y mae yr ymarferiad o hono yn iachus, yn bywiogi yr ysbryd, yn gwresogi y gwaed, ac yn dwyn gwrid iachusol i'r gruddiau; felly gwelir, er mai mis oer ydyw, nad yw heb hyfrydwch ynddo. Er fod galluoedd tyfiannus y ddaear yn awr wedi eu cloi i fyny, eto nid yw y ddaear heb ei phryd- ferthion; O, na, os rhew ac eira sydd, y mae y ddaear yn ymddangos yn hardd o dan ei mantell wen; gorchuddir y nentydd â gorchudd o rew caled a phrydferth, y perthi a'r llwyni a blygant dan bwysau yr eira gwyn, a'r dyferion toàd- edig oddi wrthynt wrth ddisgyn a rewant i fyny, gan ymffurfio