Skip to main content

YR ATHRAW. Rhif563. TACHWEDD, 1873. Pris lc. TRAGYWYDDOLDEB AC ANNGHYFNEWIDIOL- DEB DUW. Î^îtN yr eilfed Salm wedi y cant, y mae Dafydd yn cyferbynu n\ y Creawdwr a'r greadigaeth gyda golwg ar eu sefydlog- rwydd a'u annghyfnewidioldeb :—" Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear, a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylaw. Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn, ac fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir. Tithau yr un ydwyt, a'th fiynyddoedd ni ddarfyddant." Yn y geiriau hyn yr ỳdym yn cael desgrifiad mawreddog o Dduw, yn cynnwys, nid yn unig ei dragywyddol hanfodiad, ond hefyd ei annghyfnewidioldeb yn yr hanfodiad hwnw. Mae tragywyddolrwydd y Duwdod yn cael ei osod allan yn y geiriau hyn,—"A thi a barhei;" a'i annghyfnewidiolrwydd yn y rhai yma,—"Tithau yr un ydwyt." Yrydym ni yn hollol analluog i amgyffred yr un o'r priodoleddau hyn; maent yn gyfartal fyned tu hwnt i gyrhaeddiadau pob dealldwriaeth meidrol. Fod Duw o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb sydd wirionedd ag y mae yn rhaid i ni o anghenrheidrwydd ei addef; ond mwyaf y chwiliwn i mewn iddo, mwyaf oll ydym yn cael ein gorchfygu ganddo. Nid y ffaith nad oes i Dduw ddim diwedd sydd yn ein dyrysu, ond y ffaith na fu iddo ddim dechreuad. Os ymdrechwn i osod ein meddyliau ar y ffaith hon, ni a ganfyddwn yn fuan nad oes un ffordd, pa fodd bynag, i'w throsi i mewn i'r dealldwriaeth. Nis gallwn feddwl am ddim yn cael ei gynnyrchu heb achos ; eto, yn sicr aid oedd yr un achos i gynnyrchu Duw. Neu tybier fod