Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 562. HYDREF, 1873. Pris lc. BYWHAU MERCH IAIRUS. MAE Iesu yn Nghapernaum. Y mae wedi bod yr ochr draw i'r môr ; ond cymmerodd long, a daeth i'w ddinas ei hun. Capernaum oedd hòno. Y mae wedi gadael Nazareth, a gwneyd ei gartref yn Capernaum. Hen fyd newid cartreü, neu yn hytrach hen fyd digartref iawn yw'r byd yma. Yr oedd y Gergesiaid am i Iesu fyned o'u cyffiniau hwy, ac y mae ei waith yn galw am iddo ddyfod i dueddau Gorllewinol llyn Genesaret. Byddai'r Gergesiaid, hwyrach, yn falch o'i foddi yn y môr wrth groesi, fel y gwnaeth eu moch; ond mae rhy w rai yn awyddus iawn ei weled yn cyrhaedd atynt yn fyw ac yn iach. Pan mae rhai yn anfon Iesu i ffwrdd, mae ereill yn ei wahodd a'i dderbyn. Pan mae yr Iuddew yn gwrthod Iesu, mae Cornelius, y Cenedlddyn, yn credu ynddo ; ac os byddi di y Cymro yn anghredu yn Nghrist, bydd calon rhyw bagan draw yn llamu o lawenydd gyda'r son am dano. Mae Iesu yn ymadael â'r Gadareniaid ar eu cais. Nid yw Iesu ddim yn aros yn hir yn un man os heb roesaw; ond meddylddrych rhyfedd a phwysig y w fod Iesu yn ymadael o un man, ac annoethineb a phechod sydd yn ei anfon ymaith. Cariad at y byd,—serch yn y moch sydd yn dweyd, " Dos i ffwrdd," wrth Iesu. Llais doethineb a duwioldeb yw, " Aros gyda ni." Yn mhlith y dorf oedd yn sefyll ar làn y môr yn edrych, ac yn croesawu Crist, yr oedd gŵr o'r enw Iairus, pennaeth y synagog, a â at Grist yn achos ei ferch fach ddeu- ddeg mlwydd oed, a'i unig ferch ydoedd. Mae hi wedi marw; ond creda y gall Iesu ei dwyn yn fyw.