Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif561. MBDI, 1873. Pris lc. YR YSGOL SABBATHOL. CYNLLUN ER EI DIWYGIO. ^AE yr ysgol Sul yn sefydliad bendigedig. Profwyd hi felly, a phrofá eto yn y dyfodol ei bod felly, gan ei daioni i bawb a gymmer ei haddysgiaeth. Dywedir ei bod yn forwyn wasariaethgar i'r efengyl, nid am y tybir ei bod, ond o herwydd yr eglura ei hun felly. Mae yn deilwng o ymchwil- iad pob dyn er cael moddion a wnant ei pherífeithio. Mae yn sicr o gynnyddu, am nad all beidio o honi ei hunan. I. Rhwymer yr ysgol a'r eglwys yn wi. Wrth hyn daw dyledswydd a dylanwad yn gryfach. 1. Bydded y dynion goreu yn llywyddu yr ysgol, gan mai y cyfryw sydd yn llywydâu yr eglwys. 2. Taler cymmaint o sylw i absennolion ynddi ag a delir pan esgeulusir cyfarfodydd ereill perthynol i'r eglwys, a bydd yr aelodau dan gymmaint cerydd am ei hesgeuluso ag ydynt am esgeuluso cyfarfodydd ereill. 3. Daw aelodau i deimlò eu dyledswydd at yr ysgol yn fwy difrifol. 4. Dygir y byd i deimk> gwerthfewredd yr ysgol yn fwy nag erioed. II. Amser yr ysgol. 1. O ddau hyd bedwar ydyw y mwyaf cyfaddas. 2. Dechreuer am ddau, a darfydder am bedwar. Nid mynyd «yn yr amser, na mynyd wedi'r amser. Prydlondeb yn mhob peth.