Skip to main content

YR ATHRAW. Rhif 557. MAI, 1873. Pris lc. CWRDD FFYNNON IACOB. (l'ARHAD O TUDAL. 104.) II. Y DEFNYDD A WNAED o'R CYFARFYDDIAD YMi WRTH ffynnon Iacob. Ni adawodd yr ymdeithydd enwog i'r cyfleusdra hwn i wneuthur daioni i fyned heibio yn ddiddefn- ydd. Ni adawodd y wraig o Samaria y ffynnon hyd nes bu i'w sylw gael ei dynu at fater raawr a phwysig ei hiachawd- wriaeth bersonol. Yr oedd Mab Duw yn gwybod yn dda mor werthfawr oedd cyfleusderau. Fe wnaed defnydd doeth a thrugarog o'r cyiieusdra hwn, trwy gyfranu addysgiadau pwysig. Yr oedd yr Athraw mawr yn meddu perffaith gyd- nabyddiaeth â'r gwirionedd, pa un bynag ai yn traethu am'y greadigaeth, rhagluniaeth, neu brynedigaeth. Yr ocdd yn hollol gymhwys i addysgu yr anwybodus. Yr oedd ymddydd- aniad Crist yn nghylch y math mwyaf pwysig o wirioneddau. Er engraifft, yr oedd y gwirionedd a wnaed yn hysbys i'r wraig hon yn dwyn perthynas â gwir gymmeriad Duw, ysbrydolrwydd ei natur, cyflwr syrthiedig dyn, bendithion yr iachawdwriaeth, y ffordd i'w meddiannu, a'r pwysigrwydd mawr o dalu sylw i'w hawliau. Mae y modd y defnyddiodd Crist y cyfleusdra hwn yn un o'r engreifftiau mwyaf bcndigedig o'i hunanymwadiad, ei diriondeb, ei ddoethineb, ei amyncdd, ei sel, ei ddifrifoldeb, ac ysbrydolrẅydd ei feddwl. Dyma esiampl i'w ddilynwyr. Bydded i ni siarad â dynion ya achos eu heneidiau; bydded i ni wneyd defnydd o gyfleus • derau; bydded i ni drysori gair Dìiw yn ein cof, a phan fyddo amgylchiadau 'yn caniatâu, bwrw yr had da hwn i