Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 556. EBRILL, 1873. Pris lc. CWRDD FFYNNON IACOB. " Ac yno yr oodd fíÿnnon'lacob."—Ioan ìt. 6. gTúfà MAE darllen hanes bywyd y Gwaredwr, gyda myfyr- Wÿí ^0(^ duwiol, yn un o'r pethau mwyaf buddiol ac SSBI adeiladol y gall y meddwl dynol yaigymmeryd âg ef. Y mae llawer o fywgraffiadau wedi cael eu hysgrifenu am ddynion mawr a da, y rhai sydd yn hawlio ein sylw ; ond nid oes yr un o honynt yn gyfartal mewn pwysigrwydd i fywyd y dyn Crist Iesu. Mae hwn yn fywyd pur a digoll, ac yn gynllun perffaith o nodweddiad i'r dyn llygredig,—bywyd y Messiah addawedig, bywyd Iachawdwr y byd, bywyd Duw mewn natur dyn. " A'i enw ef a elwir rhyfeddol;" ac yn sicr, y mae Crist yn berson rhyfeddol,—rhyfeddol yn ei enedigaeth, rhyfeddol yn ei fywyd, rhyfeddol yn ei farwolaeth, ei adgyfodiad, ei esgyniad, ei eiriolaeth, ac y mae yn rhyfeddol yn nylanwadau ei ras. Os nad yw bywyd y fath berson a hwnyma yn cynnyrchu y parch a'r edmygedd. mwyaf, yn sicr y mae yn brawf poenus o dywyllwch, euogrwydd, ac annych- weliad y galon ; ond lle mae calon wedi ei chyfnewid gan . ddwyfol ras, y mae bywyd Crist i hòno yn llawn o ddyddordeb. Y mae geiriau, syniadau, a gweithredoedd yr Arglwydd Iesu yn llawn o ogoniant a gwerthfawredd yn ngolwg y meddwl ysbrydol; y maent yn ystorfa gyfoethog o addysg, yn gyn- hyrfiad i sêl santaidd, ac yn sylfaen i fFydd, llawenydd, a gobaith; y maent yn ffynnonan o iachawdwriaeth, yn lamp ddysglaer mewn nos dywyll, ac yn haul o ogoniant. Yn awr,