Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 555. MAWRTH, 1873. Peis lc. "EFE A WARED EI BOBL." " A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Iesu : oblegyd ©fo a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau.** jLEIAEWYD y geiriau hyn gan un o breswylwyr y nefoedd, er dyddanwch i un o breswylwyr y ddaear yn ei drallod; a chynnwysant ddefnyddiau cysur i blánt dynion yn mhob oes o'r byd. Gwelir ynddynt y pethau mwyaf gogoneddus,—Gwaredwr, gicaredigaeth, gtcmredigioti. I. Gwaredwr. " A hi a esgor ar fub, a thi a elici ei mto ej lesu." Gwaredwr ydyw yn meddiannu yr un natur a ninnau. " A hi a esgor ar fab," &c. Er bod yn Waredẁr i ddynion, yr oedd yn rhaid i'r Iesu fod yn ddyn ; dyn oedd wedi pechu, feily dyn oedd i gael ei gosjbi am bechod, ac nis gallai neb sefyll yn lle dyn gan ddyoddef drosto, oddi eithr ei fod yn ddyn ei hunan. Ar noswaith ystormllyd pan fyddo y cymmylau yn ddu, y mellt yn ymsaethu, y taranau yn rhuo, a'r gwlaw yn disgyn, y mae yr hwn sydd ar ben y mynydd uehel yn berffaith ddiogel ei sefyllfa; gall ymbleseru wrth edrych arnynt, fel fireioorhs yn chwareu oddi tano^ Y rhai sydd i waered sydd mewn perygl; y mae ef uwchlaw y cyfan, ac yn berffaith ddiogel. Felly am yr Iesu cyn ei ymgnawdol- iad; yr oedd yn berffaith ddiogel a diberygl, tra yr oedd cwmmwl digofaint yn ymgasglu uwch ben y ddaear, ac yn bygwth dinystr dychrynllyd; yr oedd ef uwchlaw iddo; a phan y buasai ychydig ddyferynau yn disgyn gan foddi byd, llosgi dinasoedd, a suddo teuluoedd i wlad y gwaeau, ni fuasai