Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 554. CHWEFROR, 1873. Pris lc. Y GWR IEUANC YN YR EFENGYL. ^gfAWN olygfa hardd iawn yn Mat. xix. 16—22., sef hanes II i dyfodiad gŵr ieuanc at Iesu Grist i geisio bywyd ^^ tragywyddol. Mae rhyw swyn a harddwch i'w ganfod mewn cyssylltiad a dyfodiad y dyn ieuanc a chyfoethog hwn at y Gwaredwr mawr i ymofyn bywyd tragywyddol. Nid yn fynych y gwelid y cyfoethogion yn dyfod at Grist yn ystod ei fywyd ar y ddaear ; ond wele engraifft o hyny yn y dyn hwn. Mae rhywbeth yn hardd yn ei waith yn dyfod at Grist i geisio bywyd tragywyddol, fel mae o werth sylwi arno. Yr oedd yn ieuanc, yn gyfoethog, ac o ddylanwad cymdeithasol uchel; ac eto y mae yn dyfod at yr Athraw da i ymofyn am ei gyfar- wyddyd i etifeddu bywyd tragywyddol. Canfyddwn yn ymddygiad y dyn hwn yn dyfod at yr Iesu amryw nodweddion teilwng o efelychiad gan ddarllenwyr ieuanc a lliosog yr Athraw. I. Daeth at yr Iesu tn yr amser goreu yn ei fywyd. Yr ydym yn cael mai gŵr ieuanc ydoedd, ac felly yr oedd yn yr amser goreu yn ei fywyd i geisio crefydd, ac i ddilyn y Gwaredwr da. Nid oes un amser gwell ar fywyd dyn i geisio crefydd na phan yn ieuanc. 1. Dyma y tymhor y mae mwyafo anghen am daìii. Pan yn ieuanc y dylai pawb geisio crefydd, oblegyd dyma y cyfnod ar fywyd dyn y mae mwyaf o anghen am dàni. Mae crefydd yn fwy anghenrheidiol i'r ieuanc nag i'r hen, o herwydd y aaae yn fwy agored i bechu a myned ar gyfeiliorn ar hyd Uwybrau dyrys anwiredd. Mae llawer yn oedi ceisio crefydd