Skip to main content

YR ATHRAW. Rhif 553. IONAWR, 1873. Pris lc. Y GWRAGEDD WRTH Y BEDD. GWRAGEDD wrth y bedd ! Pa wragedd ? Ah ! gwelaf y fam dirion, yr ysgol Sabbathol yn y gladdfa'n drist ei gwedd. Collodd un o'i phlant anwyl yn marwolaeth y dyn ieuanc, Mr. George Griffìths, Tý TTcha', Mathry, ac y mae hi yn wylo. Llawer testyn canu mae hi wedi gael erioed, ond y mae wedi cael testyn i wylo'n ddiweddar. Gwelir ei meibion a'i merched yn troi allan yn ddefnyddiol a pharchus, a mawr yw ei llawenydd am hyny; ond dyma un hoff wedi marw, ac wyla heddyw. Gwelwyd hi yn gwenu lawer gwaith wrth weled George yn fachgen mor dda; ond erbyn heddyw, wyla mewn hiraeth dwys ar ei ol. Mae hi wedi colli llawer i fachgen, ac aml i eneth rinweddol o'r gymmydogaeth uchod o'r blaen, a thristâ wrth eu gweled yn cefnu; ond clyw eu hanes o gymmydogaethau ereill; daw llythyrau canmoliaeth am danynt, a daw'n gysurus drachefn; ond y mae ei hanwyl George Griffiths wedi myn'd,—myn'd tu hwnt i derfynau hanes: ac y mae hi yn wylo, ac ni fyn ei chysuro, am nad ydyw. Y gwragedd wrth y bedd. Pa wragedd ? Gyda yr ysgol Sul, gwelaf yr ysgol ganu yn cymmysgu ei dagrau. Wylir yn yr ysgol gân! Mae dagrau yn llygaid plant y gerdd! Nid o'i bodd y seinia'r delyn oni ogleisia'r bysedd ei thànau lleddf. Tawodd Asaph bêrleisiol eto yn Seion. Ni chly wir ei lais soniarus tua Mathry, Llangloffan, a'r Groesgoch ragor; ni cha torfeydd Calfaria, Gadlys, Ynyslwyd, ac Abemant eu g"wefreiddio gan ei gerddoriaeth swynol o hyn i mae».