Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Ehip 542. CHWEFROR, 1872. Pris lc. NATUR YN PREGETHU DUW. gan Eiirus. GY8T.N Salm xix. 1—6. cawn natur yn cael ei gosod allan fel ^'ẁü) Myfi mawr a darllenadwy—llyfr uchel o ran ei feddyliau, ÌOi ac eto hawdd ei ddeall a'i amgyffred—llyfr cynnwysfawr a dyddorol, a llyfr i bawb o bobl y byd. Y mae y llyfr yn rhanedig i bennodau a dosranau mawrion a phwysig. Nid yw y nefoedd, y ddaear, y môr mawr llydan, y pysg, yr adar, yr anifeiliaid, yr ymlusgiaid, y mynyddoedd a'r bryniau, y cym- ydd a'r dyffrynoedd, y nentydd a'r afonydd, y meusydd a'r dolydd, ond gwahanol bennodau yn llyfr natur, er gwasanaeth, gwybodaeth, a hyfrydwch dynion. Gellir edrych ar natur yn ein testyn yn y goleuni o bregethwr mawr a galluog, cysson a ffyddlon, eglur a difrifol, yn dwyn Duw i'r golwg yn ei weinidogaeth. Y mae gan y pregethwr destyn mawr, maes helaeth, gwrandawyr lliosog, a chalon gynnes yn y gwaith. Nod. 1. Fod natur yn pregethu Duw yn ei faweedd. "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw." Beth yw gogoniant Duw? Y ffordd oreu i ddyfod o hyd i'r atebiad yw, gwybod beth yw, neu beth sydd yn cyfansoddi gogoniant unrhyw un. Gogoniant neb nid yw ddim sydd ar wahan oddi wrtho ef. Gogoniant dyn ydyw yr hyn sydd yn ei nodweddu ac yn ei hynodi oddiwrth ereill, a'r peth, neu'r pethau hyny yn gan- moladwy a rhinweddol, yn llesol a defnyddiol, ac yn fendith i