Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THRAW Rhif 467. TACHWEDD, 1866. Pris Ic. NEU ARWIRES Y FFYDD. (PARHAD O TUDAL. 262.) " Gwir, mi ganiatâf mai trochiad sych oedd hwn, oblegyd nid oedd yn un gwirioneddol, ond ffigyrol. Yr oedd bedydd yr Ysbryd Glân, am yr hwu yr oeddym yn siarad ddiwedd- af, yn drochiad sych. Yr oedd y bedydd mewn dyoddefiad- au, at yr hwn y cyfeiria Iesu mor deimladwy, gyda lago a loan, yn drochiad sych. Nid oedd y ffigyr yn y naill na'r llall mewn gwlychu. ond yr helaethrwydd gorlifol o'r Ysbryd yn y naill, ac o ofid yn y llall. Nid yw y cyfeiriad yn yr engraifft hon yn gymmaint at y weithred ag at un o'r am- ?;ylchiadau cydfynedol. Aethant, yn wir, i waered i'r môr, èl yr â un i'r dwfr i gael ei fedyddio ; safai y dwfr ar bob llaw iddynt, a gorchuddiai y cwmmwl hwy, fel y gellid dywedyd yn dra phriodol a phrydferth, mewn fíigyr, iddynt gael eu trochi yn y cwmmwl ac yn y môr. Ond y mae y prif gyfeiriad at amgylchiad arall, a hollol wahanol. Megys y gwna y Cristion broft'esu ei ffydd yn Nghrist, trwy fyned i waered i ddwfrbedydd, ac y cymmer anio ei hun y rhwym- edigaeth ddifrifol o ufyddhau i ddeddfau Crist; feíly dywed Paul i'r Iuddewon brofFesu eu ffydd yn Moses, drwy fyned i waered i'r môr, a cherdded o dan y cwmmwl, ac ymrwymas- ant i fod yn ufydd iddo. ' Bedyddiwyd hwy (fel hyn) i Moses.' Mae y prif gyfeiriad, nid at y weithred, ond at ym- rwymiad yr ordinhad. A fuasai y fîìgyr yn fwy prydferth, neu yn fwy priodol, pe dywedera,—Taenellwyd hwy oll i Moses, neu tywalltwyd hwy i Moses? " Dywed ProfF. Stuart ar yr adnod hon,—' Gwneir yr awgrymiad weithiau i'r Israeliaid gael eu taeneilu gan y cwmmwl a chan y môr, ac mai hẁn yw y bedydd a olyga Paul; ond nid cwmmwl gwlaw oedd y cwmmwl, ac ni chan- fyddwn un awgrymiad i ddwfr y Môr Coch daenellu plant Israely prydhyn.'" " Ymddengy8 i mi," ebe Theodosia, "fod y meddylddrych