Skip to main content

uím.'srÄÄÄ.A/w. GORPHENAF, 1865. NEU AHWRES Y FFYDD. PENNOD III. AWDURDODAU DUWINYDDOL. Yn ffyddlon i'w addewid, daeth Mr. Percy i mewn yn fuan ar ol swper, a chanfu Mr. Johnson, gweinidog yr eglwys, yno eisioes. Yr oedd efe wedi galw yn gynnar i gymmeryd cwpanaid o dê cymdeithasol, gan iddo glywed fod Theodosia vn debyg o fyned yn benwan gyda syniad.au newyddus y Bedyddwyr. Nid oedd yn meddwl ei bod yn ymddangos fel un or- phwyllog, er fod difrifoìdeb dwfn a dwys ar ei gwynebpryd: ac nid ymddygai fel un orphwyllog ychwaith, oblegyd nid ymddangosodd erioed o'r blaen mor barchus a serchog tuag ato ef a thuag at ei mham. Nid oedd wedi dywedyd un gair ar y pwnc mewn dadl, ac ymddangosai yn anmharod i gyffwrdd âg ef; ond wedi i Mr. Percy ddyfod i mewn.nis gellid ei ohirio yn hŵy. " Mae yn ddaiawn genyf gwrdd â chwi yma, Mr. John- son,'' ebe y gẁr ieuanc. " Cafodd MissTheodosia aminuau ddadl hollol neithiwr ar y pwnc o fedydd. Coledda y dyb- iaeth na fedyddiwyd hi erioed; ac yr wyf yn credu i mi bron dreulio fy holl resymeg wrth geisio eihargyhoeddi iddi gael. Gobeithio y bydd eich rhesymau chwi yn fwy effeithiol na'r eiddoffi." " Yn wir, fy mhlant i, nis gwn," ebe yr hen ŵr, "pa beth a allaf wneuthur; nid wỳfenoed wedi myfyrio llawer ar y dadleuon hyn. Fy meddwl i yw, mai gwell yw byw mewn oeddwch, a gadael i bawb fwynhau eu golygiadau cydwybod- oi'. Tuedd y dadleuon hyn yw, rhedeg i ymrysonau ac ym- •"afeilion, ac yn aml achlysurant lawer iawn o deimlad. ^wn iddynt ranu eglwysi, ac hyd y nod deuluoedd. Gwell eu gochelyd." "Ond beth ydym i wneyd â'r fath hereticiaid hawddgar a hon ?" meddai y gwr ieuanc, gyda gwên a chilolwg ystry wus lua'r fam. " Rhaid ei boddloni ei bod wedi ei bedyddio. neu