Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAI, 1865. ÎPIÍ1®©®©IIA unsirs NETJ ARWRES Y FFYDD. PARHAU U TUDAL. 104. Gallas*i un a edrychodd i wyneb y fam ar yr adeghòno, ddarllen "taflen o feddyliau annhraethadwy." Ni roddodd gais i'w llefaru. Ni cheisiwn ninnau eu hysgrifenu. Eis- teddai yn ddystaw am enyd, tynai ei hanadl yn ddwfn a dwys, yna gan godi yn frysiog, aeth i edrych am rywbeth yn ystafell ei mherch. Yr oedd Theodosia nid yn unig mewn sofid ond mewn syndod o herwydd y loes amlwg oedd wedi ei rhoddi i w mam. Tra ar iji gliniau mewn gweddi at Dduw wedi dych- welyd oddiwrth yr afon, yr oedd wedi penderfynu yu-neyd ei dyletlsuytid, ac ufyddhau i orcliymyn Iesu Grist ei Hiach- "wdwr b'ndigedig, pa beth bynag a ymddangosai iddi ei fod. Ond nid oedd wedi penderfynu cael ei throchi. Yr oedd y bedydd afonol, yn gyssylltiedig â darlleniad y rhanau hyny o'r Ysgrythyrau, yn unig wedi Üenwiei mheddwl âgammheu- on ; nid oedd yr ammheuon hyn eto wedi myned yn argy- hoeddion. Yr oedd yr ymchwiliad i gae] ei wneyd eto. Yr oedd yr ymofyniad, a ydwvf fi wedi fy medyddio? wedi cael ei wneyd mewn grweddi. Yr oedd yn aros eto i gael atebiad cydwybodol. Ond os oedd yr ammheuaeth mor ofidus i'w mham, ac mor chwerthinllyd i Mr. Percy (fel yr ymddang- osai ei fod oddiwrth ry w sylwadau a wnawd ar y ffordd adre oddiwrth yr afon,) pa fodd yr effeithiai y penderfyniad arnynt ar y diwedd, os gwnelid efyn ffafr trochiad! Eto, yn cael ei chynnorthwyo gan allu oddi uchod. teinilai ei phenderfyniad yn cynnyddu eto yn gryfach i foddloni Duw yn fwy na'r rhai a gerid ganddi yn fwy na dim arall ar y ddaear. Pan ddaeth ei mham yn ol, canfu Theodosia ei bod wedi bod yn wylo; ond ni wnaeth un cyfeiriad pellach at bwnc bedydd, hyd oni ddaeth Mr. Percy i mewn ar ol swper. Cyfreithiwr oedd y dyn ieuanc hwn. Yr oedd wedi uno âV Gymdeithas Bresbyteraidd, i'r hon yr oedd Mrs. Ernest a'i mherch yn perthyn, yn ystodbywhad helaeth ar grefydd, tra nad oedd eto ond bachgen. Er pan ddaeth i flynyddau