Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAWRTH, 1865. «TOHiI©!. ÌAMMM&* GAN Y PARCH. W. H. LEWIS. Wrth edrych ar eiriad y testyn, tybiwyf ei fod yn agored i ddau esboniad pennodol : gellir ei ystyried fel yn nodi " Y moddion goreu i gynnyddu yr ysgolion Sabbathoi," neu gellir ei ystyried fel yn nodi y moddion goreu i gynnyddu rhifedi ysgolorion yn yr ysgolion afodolant eisioes. Antunwn sylw neu ddau ar yr esboniad blaenaf o'r geiriad; hyny yw, ar y moddion goreu i gynnyddu nifer yr ysgolion. Yn gyntaf,—Nafyddedunr/iyw le o addoliad, bychanna mawr, mewn tref na gwlad, heb e'% ysgol Sabbathol. Y mae yr amser wedi dyfod, neu os nad yw eisioes wecìi dyfod, y mae gerllaw, pan nad ystyrir unrhy w sefydüad eglwysig neu grefyddol yn gyflawn, oddi eithr fod ysgol Sabbathol yn gyssylltiedig â'r cyfryw. Yr ydym yn hysbys y gall fod peth anhawsder i sefydlu ysgolion Sabbathol mewn parthau gwledig, lle y mae y boblogaeth yn deneu a gwasgaredig, pa rai, os edrychir arnynt mewn arwedd rifyddol, a ellir eu hystyried o bwysig- rwydd mawr; ac eto, os gailwn ddysgwyl swm mawr o ddaioni i'w gyflawni mewn ysgol Sabbdthoì yn mha un y rhifir yr ysgolorion wrth y cannoedd, tybiwyf y gallwn ddys- gwyl swm cyfartal o ddaioni i gael ei gytìawni mewn ysgol yn mha un y rhifir ei hysgolorion wrth y degau yn l!e wrth ý cannoedd; gan hyny, dywedwn, bydded ysgol Sabbathol gan bob eglwys a chynnulleidfa, a thrwy gynnull yn nghyd blant anwyl y rhai nas gofelir, ac nas ymofynir am danynt. Yn ail, Gwneler ymgais ai sefydlu ysgotion Sabbathol yn y tnanau mwyaf anfad a gwrthodedig o'r dref; hyd y nod pe na byddai lle o addoliad yn y gymmydogaeth.—Ni ddylai cymwyn- asgarwcb a haelioni pobl Gristionogol fod yn gyfyngedig i'r rhanau hyny o'r dref yn mha rai yr adeiladwyd cyssegrle- oedd, ac yn mha rai, drwy Ragluniaeth a gras Duw, y cania- teir iddynt hwy a'u plant i fwynhau y rhagorfraint o addoliad cyhoeddus; ond a ddylai dreiddio drwy holl gyfangorph cymdeithas—gan ymsuddo i'w dyfnder dyfnaf. Y mae man- au i'w cael braidd yn mhob tref, yn mha rai y mae gan Satan ei eisteddle, lle y teyrnasa pechod yn fuddygoliaethuí—yn