Skip to main content

YR ATHRAW. RHAGFYR, 1860. TOID&W TO&MBG» " Pe dywedid yn ein hoes ni, yr hon sydd aflonydd, yn llawn awydd nas gellir ei ddiwallu, yn sychedu am gyfoeth, moethau, gwagogoniant, a gau ddedwyddwch ; fod yn myn- yddau Ffrainc Gristionogion yn wrthwynebwyr i foethau, i fwynhad cnawdol, i uchelgais, i wagogoniant, y rhai sydd yn cashau llefydd o anrhydedd bydol, y rhai sydd yn bucheddu yn y modd mwyaf syml, yn mwynhau bywyd tawel yn was- tadol, dywedid mai chwedlau gwneuthur fyddai yr adroddiad. Ond y mae y fath bobl yn bodoli yn awr; mi a'u gwelais, bum yn cysgu yn eu tai, yn sylwi ar eu bywyd, ac yn gwrandaw ar eu hathrawiaeth. Eu syniadau sydd addfwyn, pur, hael- frydig a chymhwynasgar.'' Dymaeiriau M. A. Michiels, ys- grifenydd adnabyddus yn Paris, wrth ddwyn ger bron y byd, hanes ein brodyr, Bedyddwyr Alsase. Y mae y dysgrifiad a roddir o honynt mewn perffaith gydgordiad â Menoniaid Holand, Germani, a Switserland. Pan oedd M. Michiels yn crwydro o amgylch y Donon, bannau uchaf y Fosges, tueddwyd ef gan ei arweinydd i ymweled â Salm, pentref yr Ailfedyddwyr, fel y geilw efe hwynt, yr hwn sydd inewn gwastadedd bychan yn y mynydd- oedd, yn cynnwys tuag wyth cant o erwau o dir amaethedig, wedi ei ranu i wyth o dyddynod. Prif gynnyrchion y tir yw haidd, ceirch, rhyg, cloron, a bresych {cabbage). Tyf o am- gylch y tai ychydig o goed ffrwythydd, a'r rhai hyny yn alluog i ddal gauaf caled, ac addfedu eu ffrwythau yn nghanol rliew cynnarol yn Hydref. Y mae y golygfeydd o'r uchel- dir hwn yn fawreddog, a phrydferth tuhwnt i ddarluniad. Arweiniwyd M. Michiels, gan ei arweinydd i dý amaethwr adnabyddus iddo, o'r enw Angsburger. Ẅrth ddynesu at y tŷ, tarewid meddwl yr ymdeithydd gan lendid, tlysni, apher- ffaith drefnusrwydd pob peth a welai. Yr oedd muriau y tŷ wedi ei wyngalchu; uwchlaw pob ffenestr a drws tyfai y rhosyn prydferth â'i arogl pêr; yr oedd y Uoriau yn lân ddi- frychau; y byrddau, cadeiriau, a'r meinciau wedi eu gwneu- thur o ffawydd, ac yn adlewyrchu eich llun gan lendid. Yr oedd pob peth yn y drefu oreu. Cyfarfyddodd y gwr hwyni