Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. TACHWEDD, 1860. ©RMmJ^Mo»-®OTaiS OTWTOlö, RHIF XLI. § (>0. Y FFURFIAU ANNHERFYNOL AN- SODDOL (NEU Y RHANGYMMERIAD). 1. Ffurfir y Presennol trwy osod yn, gan, dan, o flaen yr Enwol. Sylwer ar y gwahaniaeth rhwng yn, gan, dan :— (a,) Yn a arferir yn yr holl amserau cyfansawdd, ac eithrio y rhai Perffaith ;—Mae efe yn dysgu, yr oedd efe yn dysgu, bydd efe yn dysgu. Arferir yn hefyd yn Ansoddol, i ddynodi cyflwr, sefyllfa, neu ansawdd per- sonau a phethau;—Ni buasai neb yn medru darllen, yn gwneuthur y fath gamgymmeriad; "Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwythau yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny;" " Paham y sefwch yn edrych tua'r nef?" Arferir yn weithiau hefyd ar ol Berf derfynol er mwyn amrywiaeth dullwedd, pan fyddo cyfres o weith- rediadau cyd-ddilynol yn cael eu nodi;—"A sicrhawyd i ni gan y rhai a'i clywsant ef; a Duw hefyd yn cyd- dystiolaethu;" "Yr ymedy rhai oddiwrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus........yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, yn gwahardd priodi, ac yn ercki ymattal oddiwrth fwydydd." (b,) Arferir gan yn fynych (fel yn yn yr engreifftiau diweddaf) ar ol Berfau Terfynol, i osod allan weithred- oedd a gyd-ddilynant weithred y brif Ferí';—" Preswyl- ied gair Crist ynoch yn helaeth, gan ddysgu a rhybuddio