Skip to main content

YR ATHRAW. MEDI, 1860. RHIF XXXIX. § 58.—Y BERFAU YW, SYDD, OEDD, OES, &c. 1. Edrychir ar y ffurfiau hyn yn gyffredin fel y trydydd person unigol; ond fel y sylwyd yn § 32, nodiad 3, 4, 5, 6, aríerir yw, sydd, oedd, yn fynych am yr holl bersonau yn y rhif unigol a'r lliosog. Oes a mae a arferir yn y trydydd person yn unig. 2. Os arferir Rhagenw Personol o flaen y Ferf, ac os Enw neu Ragenw fydd yr haereb, arferir yw ac oedd am yr holl bersonau;—Myfi yw y dyn, ti yw y dyn, efe yw y dyn; nyni yw y dynion, chwi yw y dynion ; myfi yw efe, ti yw efe; myfi oedd y dyn, ti oedd y dyn, &c.; myfi oedd efe, &c. Ond os saií' yr haereb yn mlaenaf, arferir y ffurfiau gwahaniaethol o bersonau y Ferf; dyn wyf% dyn wyt ti. Gwneir yr un peth hefyd os Ansodd- air fydd yr haereb, pa un bynag'ai y Rhagenw neu yr Haereb fydd yn mlaenaf;—Myfi wyf àlawd, ti wyt gyf- oethog; cyfoethog wyfû, tlawd wyt ti. 3. Os Moddair lleol fydd yr Haereb, sydd ac oedd a aî>ferir am bob Person os bydd y Rhagenw o fìaen y ^erf; ond os ar ei hol y bydd, arferir y ffurfiau gwa- "aniaethol o Bersonau y Ferf;—Myfi sydd ymsi, ti sydd y^a, ni sydd yma, &c.; y íi oedd yno, ti oedd yno, ^wi oedd yno, &c.; yr wyf fi yma, yr oeddwn i yno, *c« Y mae yr un peth yn wir hefyd am bu;—Y fi fu yno, ti fu yno, chwi fu yno; bum i yno, buost ti yno. 4. Arferir sydd ac oedd yn gynnorthwyaid yn holl