Skip to main content

YR ATHRAW. MEHEFIN, 1860. RHIF XXXVII. § 51.—GRADDAU CYMHAROL. 1. Perthyn i Ansoddeiriau bedair gradd cymharol, y rhai a elwir genym, y Symlradd, y Gystadlradd, y Gynnyddradd, aW Eithafradd: gwel § 10. Daeth y Symlradd dan sylw yn yr adran ddiweddaf: gwel § 50. 2, 3, 4. Nid priodol hollol yw galw hon y radd Gymharol o gyfan, oblegyd nid yw pet.hau yn cael eu cymharu â'u gilydd pan ei harferir. Ei hunig ddybea yw gosod allan ansawdd neu briodoledd pethau ynddynt eu hunain yn annghyssylltiedig â phethau ereill. Y graddau ereill a arí'erir pan fyddo personau a gwrth- ddrychau yn cael eu cymharu â'u gilydd. •2. Nid oes amrywiaeth i ddynodi cenedl na rhif yh y graddau cymharol a elwir yn briodol felly, ond arferir yr un ffurf pa beth bynag fyddo rhif a chenedl yr Enw: —Pren ywyn, careg wen, cerig gẁynion; mae y pren, y gareg, neu y ceryg, cyn wyned a'r eira: mae hwn, hon, neu y rhai hyn yn drymach na'r rhai acw; hwn9 hon, neu y rhai hyn yw y trymaf. 3. Arferir y Gystadlradd pan fyddo personau neu wrthddrychau yn meddu dogn gyfartal o'r un ansawdd neu briodoledd:—Mae dy frawd cyn daled a thithau, hyny yW, yr un hyd ydynt. Ei wisg oedd cyn wyned a'r eira, yr un mor wyn a'r eira. 4. Cymmera y Gystadlradd y Moddeiriau cyn neu wn, a mor, yn aml o'i blaen;—mor laned a'r lili, cyn #>yned a'r goleuni. £• Dilynir y Gystadlradd â'r Cyssylltair cymharoj «