Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. IONAWR, 1860. RHIF XXXII. OTMẄPIÌo § 43. TEITHI CYFRYNGDDOD. Mae dyn yn meddu teimlad yn gystal a deall neu feddwl, ac y mae mor naturiol iddo amlygu y cyntaf wrth ysgrifenu a llefaru, ac yw iddo amlygu y diweddaf. Wedi cael ein cynhyrfu gan amgylchiadau a dygwydd- iadau, neu ein tanio gan yr hyn a lefarir genym, dylanwada y teimlad ar y deall, yr ewyllys ar y rheswm; daw ein hofnau neu ein dymuniadau yn drech na ni, a mynant ddangos eu hunain mewn ebychiadau disymwth a digyssylltiad â llinell yr ymresymiad neu'r hysbysiad. Weithiau gwneir ni yn llawen, bryd arall yn drist; yr ydym yn awr yn ein cymmeradwyo ein hunain, yn y man yn edifarhau am yr hyn a wnaethom ; y pryd hwn yn obeithiol, a phryd arall yn ddiobailh; yn hyderus neu yn ddihyder ; yn caru neu yn cashau ; yn llawn o serch a hoftder at ereill yn awr, yn llawn eiddigedd, cenfigen, a llid bryd arall; yn mawrhau, neu yn con- demnio arall; yn ei foli, neu yn ei ddirmygu. Myn y teimladau hyn ddangos eu hunain mewn geiriau priodol iddynt eu hunain, y rhai a ellir eu galw yn iaith teimlad ar wahan oddiwrth iaith rheswm. Arddangos teimlad yw swydd yr iaith hon, ac nid hysbysu syniadau medd- yliol. Gan hyny, gwneir hi i fyny o eiriau ac ebychiad- au disymwth, heb gyssylltiad â'r hyn sydd yn myned o'r blaen, nac sydd yn dyfod ar ol; ond wedi eu dodi yn gyffredin rhwng gwahanol ranau yr hysbysiad neu y