Skip to main content

YR ATHRAW. RHAGFYR, 1859. RHIF XXXI. § 42. DOSBARTHIAD CYSSYLLTEIRIAU. Amlwg yw fod amrywiaeth mawr rhwng ystyron a pherthynas brawddegau a gyssylltir â'u gilydd, ac o ganlyniad fod amrywiaeth hefyd yn ystyron y cyssyllt- eiriau a arferir i'w cydio yn ngbyd. Nis gall dosbarth- iad o'r cyssyllteiriau, yn ol eu gwasanaeth i osod allan ystyron a pherthynas y brawddegau a gyssylltant â'u gilydd lai na bod yn ddyddorol i'r efrydydd. Mae llawer o anhawsderau i wneyd hyn, a pheth perygl i'r cais roddi mwy o betrusdod nag o gymhorth; ond gwnawn gais at hyny. Gellir eu rlianu yn y lle blaenaf i ddau brif ddosbarth, dan yr enwau,— Cyssyllteiriau Cydredol, a Chyssyllteiriau Annghydredol. Arferir y cyntaf i gydio dwy frawddeg a fyddo yn cytuno â'u gilydd o ran ystyr, a'r olaí' pan í'yddo annghytundeb yn cael ei gyfleu. Meddai un Grammadegydd ;—" Y mae Cyssyllteiriau tra yn cyplysu brawddegau, naill ai yn cyplysu eu hystyr heíÿd, neu yn peidio gwneyd hyny." Ac meddai Scaliger ;—" Cyssylltanty berfau a'r synwys, neu cyssylltant y berfau yn unig, gan ddigyssylltu y synwyr." Canfyddir ar unwaith fod dirfawr wahaniaeth rhwng y brawddegau a ganlyn, ac heíÿd fod yr holl wa- haniaeth er cymmaint ydyw, yn codi oddiar y gwahan- iaeth sydd rhwng y ddau Gyssyllteiriau a arferir. 1. Cynheuwyd tân a goleuwyd canwyll. 2. Cynheuwyd tân neu goleuwyd canwyll. Cynnwysa y ddwy linell ddwy frawddeg yn mhob un, wedi eu cydio yn nghyd a'r Cyssylìteiriau a a neu.