Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. MEDl, 1859. RHIF XXVIII. § 39. TEITHI ARDDODIAD. Fel yr arwydda yr enw, Arddodiad sydd ranymadrodd •a ychwanegir at rai rhanauymadrodd ereilî. Geilw y Saeson ef prepositionz=irhayddodiad neu flaenddodiad ; mae yn debyg am y rheswm ei ibd yn blaenori y gair yr ychwanegir ef ato mewn brawddeg. Gaìwai y Gram- madegwyr Groegaidd ef,—syndesmos=zcydrwymydd, am ei fod yn rhwymo neu yn cyssylltu rhanauymadrodd wrth eu gilydd. Am y rheswm hwn rhestrent yr Arddodiad a'r Cyssylltair dan yr un dosbarth. Pan y meddyliom am fedrusrwydd y Grammadegwyr hyn, nis gallwn lai na barnu fod rhyw reswm dros restru y ddau ranymad- rodd hyn felly. Gan mai darlun i'r llygaid o syniadau meddyliol yw iaith, a chan fod cyssylltiad rhwng syniadau meddyliol â'u gilydd, rhaid hefyd í'od cyssylltiad rhwng y geiriau a arferir i gyfìeu y syniadau cyssylltiedig hyny. Yn yr ymadrodd—dyn da, y mae cyssylltiad agos yn y meddwl rhwng y person a'r briodoledd a nodir, ac hefyd mewn iaith rhwng y geiriau dyn a da a roddir yn enwau ar y person a'r briodoledd. Felly hefyd y mae cyssylltiad. rhwngy gwcithredydd â'r toeithred, y weithred â'r modd y cyflawnir y weithred, a'r weithred â'r gwrthddrych. yn y brawddegau a ganlyn ;—Dafydd a àaraioodd, Dafydd a darawodd yn drwm, Dafydd a darawodd William, Y