Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. GORPHENAF, 1859, RHIF XXVII. M O D D A I R (Adverb.) Gwel y darllenydd ein bod, yn y rhanau blaenoroì o'r gwaith, yn gwrthod y gair Rhagferf, ac yn dewis moddair yn ei le. Mae yn amlwg mai cais fongleraidd at roddi cyfieithiad o'r gair Saesoneg—Adverb yw Rhag- ferf. Yr ydym yn galw hwn yn gyfieithiad bongleraidd, o herwydd nad yw yn cyfleu y gronyn lleiaf o feddwl y gair Saenonaeg. Ystyr Adverb yw to a verb, a golyga rywbeth a 'ychwanegir at Ferf. Yn awr ni chyflea rhagferf y syniad lleiaf o'r fath ystyr ; ond tuedda i ar- wain yr efrydydd i dybied fod y geiriau a elwir yn rhag- ferfau yn cyflawni swydd hollol wahanol i'r hyn a wnant, fel y gwelir yn amlwg ond treiglo y gair rhagferf i'w wreiddiau. Nid oes i'r blaenddod rhag ond dau ystyr; —yn lle ac o flaen. Yn ol yr ystyr blaenaf, gair yn lle Berf fyddai rhagferf; yn debyg fel y mae rhagcnw yn golygu gair yn lle enw ; ond gẃyr pawb nad gair a arferir yn lle Bcrf, ond gair a arferir ayda Berf, yw rhagferf. Ond cymmerer yr ail ystyr i'r blaenddod rhag, a golygai rhagferf air a arferir o flaen Bcrf; ond gŵyr pawb mai ar ol y Ferf yr arferir y geiriau hyn fynychaf yn y Gymraeg beth bynag, ac nad oes un reol ddieithriad gyda golwg ar eu sefyllfa mewn un iaith. Yr ydym, gan hyny, yn ddiseremoni yn bwrw y gair Rhag- ferf ar unwaith dros y drws o faes Grammadegiaeth. Gelwir y rhanymadrodd hwn gan rai yn Or-air. Ond y mae hwn yn ymddangos mor wrthodedig a'r llall, os nad ellir profi mai geiriati ŷormodolî'neu eiriau llanw, fel