Skip to main content

YR ATHRAW. MEHEFIN, 1859. UHIF XXVI. § 36. MODD-FERFAU. (FERBS OF MOOD.) Modd-ferfau y gelwir y rhai hyny nad ydynt yn cyfleu syniad berfol cyflawn ynddynt eu hunain, ond a derfynant ystyr gwir Ferf, trwy ychwanegu atynt y syniad o ddichonolrwydd, neu anghenrheidrwydd, ew- yllysgarwch, neu ganiatad, beiddiad, neu orfodiad. Y Thai mwyaf cyffredin ydynt', gallu, medru, mynu, dylu, beiddio. Y Ffurf Annherfynol Enwol o Ferfau a arferir gyda y rhai hyn ; heb yr arddodiad ì fynychaf. 1. Gallu. Cyfymredir hon fel Berf reolaidd yn holl Amserau Syml y Modd Mynegol a'r Ammodol. Y prif syniad a gyflea yw galluogrwydd ; ond weithiau, yn enwedig yn yr Amser Dyfodol» golyga ganiatad;— Gelli fyned; a allaf c/ael hwn ? 2. Medru. Arferir hwn yn. y Modd Mynegol a'r Ammodol. Y mac yn gyfystyr a gallu, ond nad%yw fel yr olaf yn goìygu caniatad ;—Medrwn ddarllen; medr- af ganu. Arí'erir y gair âichon o íìaen deiliad y Ferf yn fynych i osod all-im yr un syniad ;—" Dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraliam." Amlwg yw, fod hebgoriad (elipsis) mewn ymadroddion fel hwn. Y frawddeg yn gyflawn yw ; " Dichon yiv i Dduw o'r meini hyn gyfodi plant i Àbraham." 3. Mynu. Arferir hon yn y rhan fwyaf o Amserau y Modd Mynegol a'r Ammodol. Y syniad a gyflea yw, cwyllysgarwch, bwriad, penderfyniad ;—Mynaf ddysgu; myn wnenthur drwg. 4. Dylu. Ni arferir hon ond" mewn dau amser;—