Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. IONAWR, 1859. RHIF. XXI. § 31.—AMSERAU Y FERF. Wrth Amserau y Ferf y golygîr yr anirywiad hwnw a berthyn iddi sydd yn dynodi yr amser y bodolir, y gweithredir, neu y goddefìr. Gall yr hysbysiad a gyn- nwysa brawddeg gyfeirio at yr hyn sydd, yr hyn/w, neu yr hyn fydd; a phenderfynir hyn trwy amrywiadau yn y Ferf. Yr amrywiad hwn a elwir yn Amserau y Ferf. Rhenir Amser Berf yn gyffredin i bump;—y Presen- nol, y Gorphenol, y D^'fodol, yr Anmherffaith, a'r Cyn- mherffaith; at y rhai yr ychwanegir yr Ail-ddyfodol weithiau. Ond y mae y dosbarthiad hwn yn anathron- yddol a dweyd y lleiaf am dano, oblegyd y mae rhai o'r dosbarthiadau hyn yn cynnwys y lleill. Cynnwysa yr amser Gorphenol yr Anmherffaith, a'r Cynmherffaith, oblegyd dynoda y naill a'r llall yr hyn a fu ar wahan oddiwrth yr hyn sydd a'r hyn afydd. Gorphenol gan hyny yw y tri. A chynnwysir yr Ail-ddyfodol, os oes y fath amser, yn y Dyfodol, oblegyd hysbysa y naill a'r llalî yr hyn fydd ar wahan oddiwrth yr hyn fu a'r hyn sydd, fel y mae yr enw Ail-ddyfodol yn arwyddo. Mwy cywir yw dywedyd fod Amserau y Ferf yn 1 hanedig i dri, y Presennol, y Gorphenol, aV Dyfodol; ac nid yw yr amrywiaethau ereill ond gwahanol raddau yn yr amserau a enwyd. Dynoda ysgrifenais fod y weithred o ysgrifenu wedi ei chwblhau yn yr amser a aeth heibio, ond yn anmhennodol; hyny yw, heb bennodi pa bryd. Dynoda yr Amser Anmherffaith (fel ei gelwir)—ysgrif-