Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. ' Pauaf petli yw doethineb, cais ddoethineb, ac â'th holl gyfoeth cais, ddiall." RHAGFYR, 1854. RHIF XI.—PEN. III.—PARHAD ADHAN II. GAN E. ROBERTS, CEFN BYCHAN. III. Ygwahaniaeth rhwny enwaed'wd a bedyJd. Pan aeth Duw i gyfammod âg Abraham ar ran ei hiliogaeth, gorchym- ynodd iddynt gael eu henwaedu ; a chan yr enwaedid baban- od trwy Ddwytbl orchymyn, dadleuir y dylai babanod gael eu bedyddio. Ond amlwg yw, y gorphwysa yr ymresymiad hwn ar debygolrwydd tybiedig yu y ddwy ddefod, pryd mewn gwirionedd y gwahaniaetha enwaediad oddiwrth fedydd yn ei holl brif agweddau. I. Penodwyd y ddwy ddefod i bersonau gwahanol. Gos- ododd Duw yr enwaediad ar yr un pryd ag yr aeth i gyfam- mod âg Abrahatn ; yr oedd pob gwryw yn ei dŷ, hyd y nod y gweision i gael eu henwaedu. (Gen. xvii. 10—14.) Fel hyn yr oedd ei holl hiliogaeth i gael eu henwaedu trwy eu holl genedlaethau dyfodol, a'u holl weision hefyd; (Ecs. xii. 44.) a'r holl ddyeithriaid gyda eu plant a'u gweision a fyddent yn preawylio yn y wlad. (Ecs. xii. 48, 49.) Fel hyn trefnwyd yr enwaediad i holl hiliogaeth Iacob fel y cyfryw gyda eu gweis- iona'uplant; ac i'r noll ddyeithriaid a fyddent gyda hwy a'u plant, heb un ystyriaeth o'u cymeriad. Yr anwybodus a'r annysgedig, da neu ddrwg, duwiol neu annuwiol, yr oedd- ynt oll i gael eu henwaedu. Óud gosodwyd bedydd gan ein Harglwydd i gael ei weinyddu i gredinwyr yn unig. (Math. xxviii,19. Marcxvi. 16. Act.ii.38.) Am hyny,gan fodffydd yn ofynol yn yr hwn a geisia fedydd, tra yr enwaedwyd rhai heb ffydd,caníyna fod y ddwy ddefod yn wahanol yn eu cym- ei'iad, ac y gellid yn briodol enwaedu y rhai nis gellir yn gyf- reithlon eu bedyddio. Gan y gellid y pryd hyny enwaedu un mewn oed heb ei aileni, gellid hefyd enwaedu baban di-