Skip to main content

YR- ATHRAW. " Penaf peth yw doethineb, cais ddoethineb, ac â'th holl gyfoeth oais ddeail." HYDREF, 1853. &TNT (TR CEFN BYCHAN. GAN HUGH JONES. Nid y w yr ysgrifenydd heb deimlo mai un o'ripethau mwyaf «nhawdd i'w wneyd yn iawn, ydyw ysgrifenu bywgraffiad teilwng o sylw y cyffredin, yn enwedig felly pan fo y gwrth- ddryeh o nodweddiadau meddwl ac ysbryd a chwenychai ymguddio yn hytrach nag ymddangos yn gyhoedd. Ond y mae yn y cyfryw gymeriad wir werth, fel aur wedi ei orcK- uàdio; ac y mae yn deilwng o gael ei ryddhau a'i ddwyn i'r goleu yn ei brydferthwch priodol. Gwrthddrych y eofiant hwn ydoedd John Hughes, mab i Hugh ac Elisabeth Hughes, Garth, Trefor. Ganwyd ef Medi 1,1831. Mae tad a mam ein brawd ymadawedig yn aelodau parchus gyda y Trefnyddion Calfinaidd, yn y Garth. Bu ìddynt liaws o blant, y rhai fuont feirw yn ieuainc. Nid oe# iddynt yn awr wedi ei adael ond un i gydalaru â hwynt am ei frawd, ei unig frawd. Yr oedd Hugh Hughes a'i wraig, fel pobl ystyriol o'u rhwymedigaethau i feithrin eu plant yn addysg ac yn athrawiaeth yr Arglwydd, wedi dangos sel ae eiddigedd duwiol i ddwyn eu plant i fyny hyd y gallent i barchu crefydd a duwioldeb, gan eu harwain yn ofalus i'r ysgol Sabbathol, a rhoddi iddynt bob siampl dda mewn gei*- wiredd, cyfiawnder, a duwiolfrydedd; yn yr hyn mae y Meth- odistiaid yn dra chanmoladwy. Myn a dybiwn, trwy fod y ddau fab wedi gadael Methodistiaeth a throi yn Fedyddwyr, nad oedd rhieni John Hughes, yn dra sectaraidd eu hysbryd, onide buasai mwy o'r nwyd hòno, mae yn debygoí, yn eu {>lant. Na, mae yn haws genyf goelio eu bod wedi bod yn lafurus i'w dwyn i fyny i barchu y Beibl fel rheol fFÿdd, yn hytrach nag un crynodeb o syniadau enwadyddol. Os felly, clod iddynt. Myfi a glywais frawd John Hughes yn adrodd