Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. " Peaaf petli yw doethineb, cais ddoethineb, ac â'th holl gyfoeth cais ddeall." EBRILL, 1853. Gan B. Phice, (Cymro Bach). Dygwyddodd i mi ddyfod yn adnabyddus â man yn sir Gaerwrangon, lle yr oedd ysgol Sabbathol heb un athrawes ynddi. Wel, pa le,meddwch, oedd y bai? A oedd yno ddirn un ferch yn foddlon cymeryd y gorchwyl anwyl hyny mewn llaw? A oedd pob merch yn y lle yn rhy falch? yn rhy ddiffrwyth? yn rhy ddiog? neu yn rhy annuwiol i ddyfod i'r ysgol Sabbathol? Na, na, ddarllenwyr serchog, peidiwch a gwylltio; dim, dim o'r fath beth, nid ar y mercned oedd y bai, ac anaml iawn niae y bai o'u tu hwyl Apeliaf atynt hwy eu hunain! a phwy a ŵyr gystal a hwy! Feallai y bydd ambell i hen lanc calon galed, neu ryw hen ŵr pengam yn fy amheu, ond gwell iddynt beidio,—apeliaf at y merched! Wel, beth oedd yr achos fod yr ysgol Sabbathol yn------» heb un athrawes? Chwi synwch pan ddarllenoch fod yr hen bobl wedi gwneuthur deddf yn y fan hòno, nad oedd un ferch i gael ei gosod at y gwaith!! Ni allaf ar hyn o bryd ym- ddiried i fy nhymer boeth, pe dechreuwn roddi tafod drwg i'r hçn bobl, ain hyny mi a'u gadawaf yn llonydd. Digon yw dywedyd eu bod wedi gwneuthur deddf i gadw pob merch oddiwrth y gwaith gogoneddus o dywys y meddwl at wybod- aeth grefyddol! Wedi ibethau fod fel hyny am gryn amser, a'r ysgol, fel y gallesid dysgwyl yn ddigon dilewyrch, y meibion ieuainc da a benderfynasant i ddefnyddio moddion er symud y gwarth, a llwyddasant. Penderfynasant i gael cyfarfod cyhoeddus i'r ysgol, ac anfonasant am y Cymro Bachyno, i roddi dar- lith ar y pwnc. Pa un a oedd merch i gael ei goddef i íod yn athrawes, neu beidio? Nid oedd pwnc mewn bodolaeth yn boddio meddwl y gwalch hwnw yn well, am hyny, cyd- eyniodd â chais y bobl ieuainc; ónd ni wyddai yr hen bobl