Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE NELSON. dim dodrefn arall ar fy mhen i'r capel. Wyt ti am dymi y goler felfat oddiar dy got ucha, Ned, a chribo dy wallt ar dy dalcen, fel yr hen flaenoriaid er's talwm ? " " Na, Sarah bach, mae oes yr hen biwri- taniaid wedi myned, ao yr ydw i am fod yn gymaiiat o swel ag erioed. Yr wyf am goler velvet a ' cbiw pi' hefyd." Llonodd Sara yn fawr with hyn, ac ni soniodd air byth am y peth. DECIIKEU GWElTHiO. Ar ol myn'd o dan y corn olew, a dechreu teimlo i'y hunan yn sadio tipyn, dechreuais hryderu, pa beth a gawn vneyd fel blaenor. Collais lawer noson o gysgu gan mor bryder- us oeddwn. Yr oedd digon yn y set fav/r eieoes a fedrent siarad mwy na digon, ond yr oeddwn yn teimlo fod eisiau gwneyd rhj w- beth heblaw siarad. Yr oedd ihyw lef ddis- taw fain o hjd yn dweyd withyf fed llawer o tobl na fyddent byth yn twyllli capel nac eglwys: dyrrafyddai fy ngwaith. Yr oedd Tin gwr ar fy meddwl er's llawer dydd, ac yr oeddwn yn teimlo y buasai yn dda genyf pe tnediwn ei gael i'r Ysgol Sul. Un o'rdynion tnwyaf ffraeth yn yr aidal, dyn a chalon fawr yn euro yn ei fynwes, sef Lewis — y gof, dyna y dyn y rhoddais fy mryd i fyn'd i gael jmddiddan ag ef gyntaf. Ar ol te ryw nos Lun, ffwrdd a fi ato i'r efail, am y gwyddwn ei fod y noson noson hono yn gweithio yn hwyr, i orphen rhywbethpwysig oedd eisiau yn gynar yn y boreu. Cefais y go' wrthi yn ddygyn yn trwsio darn o un o'r peirianau peithynol i'r chwarel. Pan aethum i fewn i'r efail, edrychodd Lewis ifyny, a gwelwn rhyw wen goeglyd yn myn'd dros ei wyneb. Tynodd ei gap, ac ymgrym- odd nes yr oedd ei drwyn bron a thajo yr eingion. "Helo, Mr. Ffowcs, But yrydath chi heno, syr ? " meddai'r hen gyfaill. " Paid a'm galw i yn feistar, Lewis bach ; cofia mai Ned Ffowc ydwi fel yr oeddwn tua phymtheng mlynedd ar hi:gain yn ol, pan oeddem ni yn hogia gyda'n gilydd. Wyt ti yn cofio fel y byddem yn chwareu efo'n gilydd ar Ian y llyn isa ar brydnawniau Sadwrn. Llawer 'sgodyn ddaru ni ddal yn te, Lewis. Wyt ti'n cofio, co bach, yr hogia eraill fydda yn cyd chwara a. ni yn Cloddfa'r coed, sef Lob T^pobty, Dafydd L!oyd, Price Griffith, a Morris---------. Wyt ti'n cofio fel y bydda ni ambell noson seiat a chyfarfod gweddi yn myn'd i gyd i'r un set, ac yn poeni ysbrydodd cyf- iawn yr hen flatnoriaid anwyl—Edwaid Wiliam a John Robins." Erbjn hyn yr oedd y dagra yn powlio i lawr wyneb yr hen of, ac yntau yn sychu ei Wyneb a chefn ei law nes gadael stripen ddu ar draws ei drwyn. " Na, paid a'm galw yn Mr. Ffowcs eto, Lewis." " Wei, yn tydi pawb yn lecio cael eu galw yn fistars&c jnjistresus 'iwan, Ned. Welaist ti y wraig hono oedd yn dy gyfarfod di pan oet ti yn dwad i fyny y Ion yna, Mrs. Jones W&t ti." "Pwy Mrs. Jones? Yr oedd hi yn rhy dwyll i mi gwel'd hi yn iawn, ac yr oedd ganddi fel ar ei gwyneb." "0, Catrin Wil Robin Shon fydde ni yn ei galw hi cyn iddi gael y cant a haner pres rheini ar ol yr hen gyb o ewythr fu farw yn perthyn iddi hi yn y Mericia, ond Misus Jones bob gair yrwan, if you phase, A dyna wraig y Twmpathdrain, gwraig Benja Twm Wil Oatsen, Mrs. Wilias ydi pob peth rwan. Mae yr hogyn hyna wedi cael myn'd yn glare yn yr offis, ac wyddos ti be ma nhw wedi neud ? y mae nhw wedi newid enw y ty i Thorn Bush House. Grand yn te ? " " Wei, Lewis bach, nid dwad yma i drin achos pobl a'u henwa nhw ddaru mi, ond i dreio fy ngore gen't ti ddwad i'r Ysgol Sul." "0 brensiach mawr, Ned; wyt ti wedi dechra biaenora ? Mi well yn fuan dy fod wedi dyfod i'r rong siop. 'Rwyt ti yn gwybod am dan a i, Ned, dim lol wst ti. 'Does gen i fawr iawn o ffydd mewn crefydd rhai pobol fel y mae hi yn cael ei chario yn mlaen ganddyn nhw y dyddia yma. Tipyn o sham ydi eu crefydd nhw yn awr—tipyn o gilt ar haiarn bwrw. Well di yr hen bedol yna, Ned, 'dawn i yn gyru hona i Birming¬ ham, i gael ei golchi efo giit, buasai pawb yn meddwl mai pedol aur fase hi. Wyddost ti y chestar dior sy gan Die Shonat, mahogany, medda fo, ond 'dydi o ddim mwy o fahogany nac ydi coes y mwrthwl yma. 'Does dim ond haenen dena o ffinar ar goed fftiwydd. Sham i gyd, Ned; ac felly y mae hi efo crefydd llawer o honoch chi. Paid ag edrych mor fryrnig, Ned, ne mi ddylia i dy fod yn un o honyn nhw, ond 'dwyt ti ddim chwaitb." " Lewis anwyl, mae arna i ofn dy fod di wedi myn'd yn rhy bell i'r efengyl na gras allu dy achub di." " Beth, wyt ti'n meddwl mod i yn waeth na'r lleidr ar y groes ? Mi gafodd hwnw fyn'd i'r Nefoedd yn yr un cerbyd a Iesu o Nazareth, Brenin yr Iuddewon." " 0, Lewis bach, wyddost ti ddim mor dda gen i fase dy wel'd di yn sadio tipyn. Yr wyt ti yn fwy hyddysg na'n haner ni yn y 'Sgrythyr, ac y mae tipyn o'r gilt a'r ffinar o'th gwmpas ditha hefyd. Yr wyt ti yn teimlo mwy nag ydwytti'n ddangos. 'Dydw i ddim am dy roi di i fyny, mi weddia drosta ti bob nos a bora." " Ie gwna, Ned bach, oblegid llawer a ddichon taer wtddi y cyfiawn. 'Does gen i ddim yn eibyn gwir grefydd, 'machgen i, ond yn erbyn y rhai sydd yn proffesu yn anheilwng, er fod raid i mi ddeud. fod llawer iawn o bobl wir dda yn mhob enwad, o oes. Mae arna i eisio gweled mwy o giefydd y Samariad trugarog a llai o grefydd y Lefiad annrhugarog. Os oes gen't ti amser mi ddeuda i stori fach i ti ar y pwngc." " Oes, digon o amser, Lewis; dechra ami." MARI DAFYDD. " Mewn ardal yn Sir Gaemarfon yr oedd gwraig weddw—Mari Dafydd oedd ei henw hi. Yr oedd hi wedi colli ei gwr er's haner blwyddyn, a chwech o blant eisiau eu magu, yr hynaf o honynt ddim ond deuddeg oed. Y nos Sadwrn cyn y Dolig yma, yr oedd tri o'r plant yn gorwedd yn sal o'r frech goch, ac felly yr oedd Mari yn methu myn'd yn mlaen gyda'i gwaith gwni'o, trwy yr hyn y byddai yn cael tamed iddi hi a'i phlant. 'Doedd dim tamed o fwyd yn y ty, a hitha yn nos Sadwrn 'Dolig. Rhoddodd ei bonat am ei phen, a rhedodd i dy un o flaenoriaid y capel—gwr aiianog—dyn blaenllaw yn y capel—wel, y fo oedd y pen-blaenor. Cnociodd Man Dafydd yn wylaidd with y diws, a chafodd wel'd Mr. Hwn a Hwn, a dwedodd ei chwyn wrtho, ac rneddai yntau, " 'Does gen i ddim byd i chi, Mari Dafydd. Yr ydw i yn talu trethi mawr at gynal y tlodion; y peth gora fedrweh chi neud ydi myn'd i'r wyrews." "Fedra i ddim myn'd yno heno, Mr. Hwn a Hwn, a 'does gen i ddim tamad at y fory, a thri o'r plant yn sal, re faswn i ddim yn dwad ar ych gofyn chi na neb arail." " 'Does gen i mor help am hyny; fedra i wneyd dim i cbwi." Trodd Mari druan tua chartref gyda chalon drom; ond meddyliodd y troai i fewn i dy rhyw hen saer oedd yn byw ar y ffordd; aeth a dwedodd ei chwyn with hwnw. 'Doedd hwnw ddim yn perthyn i grefydd mwy na minau. Cafodd ddysgliad o de poeth gan Mrs. Tomos, a thra yr oedd hi wrthi yn yfed y te yr oedd yr hen saer a'i wraig wrthi yn llanw basged efo bwyd iddi fyn'd adre. Dyna i ti, Ned, Samaritan di- grefydd. P'run sydd fwy a tebyg i fyn'd i'r nefoedd, ai yr hen saer yna neu Mr. Hwn a Hwn ? Yr cedd plant Mari Dafydd yn well nos Sul, a thrwy fod cymyd< ges gar- edig wedi dyrfod i arcs efo'r plant aeth i'r capi-d. Yr oedd yno bregethwr da a soniai lawer am drugaredd a dyleiswydd crefydd- wyr at rai oeddynt mewn profedigaethau, helbulon, a thlodi. Yn y seiat, cafodd Mari Datydd y fraint o glywed Mr. Hwn a Hwn gyda thon wylofus, a dagra heilltion ar ei ruddiau yn adrodi darn o'r bregeth ac yn an nog i haelioni a thynerweh. Dyna i ti, Ned, rhyw betha fel yna fydd yn cledu fy nghalon i. Olywed am rai tua'r capeli yma yn son am diriondeb a thrugaredd, maddeu- garweh a phethe fel yna, a dim yn ei actio fo eu hunain. Mewn llawer capel mae nhw yn deud wrtha i fod yno bobl yn cyd- ocheneidio, yn cydorfoleddu, ac yn cydeis- tedd i fwyta y Sacramenta, ac na wna nhw ddim siarad efo eu gilydd ar y ffordd. Nid dyna wir grefydd. Ond fel y dudes i o'r blaen, Ned, y mae llawer iawn o bobl dda yn peithyn i'r Capeli, a'r Eglwys hefyd o I an hyny. Mae yma lawer yn yr ardal yma yn bregtthwyr, yn bersoniaid, ac yn flaenor¬ iaid,—dynion ag y buasai yn dda gen i pe daswn i yu debjg iddynt. Rhaid i ti beidio meddwl fod gen i feddwl caled o grefydd, o nag oes; yr ydw i yn parchu crefydd a chrefyddwyr, ond y mae defaid duon yn perthyn i bob corlan; ond un braf ydw i ynte i pigo nhw allan. Wel, ar ol clywed yr hen of yn siarad fel hyn, yr oeddwn yn teimlo yn sicr mod i wedi cael pregeth gwerth myn'd i'w gwrando, ac y buasai yn llawer ffitiach yn lie bod Ned Ffowc wedi myn'd at yr hen of ffraeth a doniol, pe buasai y gof wedi myn'd i gynghori tipyn ar Ned Feowo, y Blaekob. " Yr wyf yn gwel'd fod dy ffiind, Margam, yn llwyddo'n ardderchog gyda'i gyfres erthyglau, ' Sut i lwyddo mewn bywyd.' '— " Ydyw, ac mae'n dda genyf hyny, achos methiant f u pob peth arall ganddo erioed." Dywed un awdwr fod llawer dull a llawer modd i enill edmygedd merch yn ol ei ham- ryfal safleoedd mewn bywyd. Os yw Li yn briod, ac heb blant, canmol ei gwr. Os yw hi'n fam, canmol y plant. Os dxbriod yw hi, ond wedi ei dyweddio, canmol y darpar briodfab. Os yw hi a'i Haw a'i liar, si yn rhydd, canmola—moliana hi ei hun,