Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE NELSON. 13 ond 'doedd dim mars, chysges i ddim wine. Mi ddoth Sarah a'r holl blant efe fi i'r stesion, a'r babi ar i braicb, a Wil yn cario numbar 9,—a Eobin a Dwlad yn cario y bocs. Pan ■welodd stesion mastar Nantlle ni, dyma fo yn gofyn odden ni i gyd yn myn'd, os felly byddai raid i ni gael special tren. Ond dyma fi yn bwcio i Lundan, a pban yr oedd y tren yn cychwyn, mi ddechreuais ysgwyd llaw a chusann, gan ddecbra gyda'r babi a diweddu efo Sarah druan, ac yr oedd hi wedi myn'd yn un swp yn fy mreichiau. Cyrhaeddais Bangor yn ol reit, a dyma fi yn gofyn i ryw bortar am ddangos through carage i mi. "Smocin, syr," medda fo. "Yes," medda fina, a fewn a fi; twfcsiodd ei gap, ac mi Tvyddwn i beth oedd hyny yn feddwl;—rodd o yn meddwl mod i yn dipyn o wr bonheddig ~-wedi bod yn aros yn y Paenol—a rhag iddo feddwl yn wahanol, rhois bisin tair iddo fo. Wrth gwrs, yr het silc oedd wedi gwneyd hyn, a'r siwt oeddwn i wedi gael yn y Nelson at y. Sulgwyn. Nid wyf am ddweyd hanes fy nhaith—run fath fydda i yn gweled pob taith,—caeau, coed, ac afonydd, a lot o dai. Digon i mi yw dweyd fy mod wedi cyraedd Euston yn saff tua pump o'r gloch,—a bod hi wedi bod yn gryn helbul arno i yno. 'Doedd Dei ddim wedi dwad i ngyfarfod i mewn pryd, ac mi ades f y het silc ar y shilff uwch f y mhen,—a thra yr oeddwn i yn edrych am Dei, dyma blisman ata i yn gofyn i mi be oedd gen i yn y bocs ; fod o yn debyg iawn i'r bocsus fydd geny nhw yn cario dynameit. " Hegs, syr," medda fina, "and bred ceirch my wife was make for my brother Dei. Did you saw him, syr." Gyda hyn dyma Dei i'r stesion yn un chwys mawr; a dyma fo yn troi ata i, ac yn edrach reit ffyrnig. "B'lemae dy het silc di, yr hen lob? 'rwyt ti yn edrych fel Kerr Hardie yn y cap yna. Ddo i gam byth efo ti." " Diawst," medda fina, " yr ydw i wedi gadal hi ar y shilff yn y tren." Ond yr oedd y tren wedi myn'd i rywle. Ond gwnaeth Dei bob peth yn iawn, a doth yr het i'r login erbyn 8 o'r gloch. Aeth Dei a fina i giab, a mawr oedd fy syndod wrth Weled cymint o bobol—a gofynais i 'mrawda oedd y bobol yn dwad o'r capel neu oedd yno Sasiwn. Chwarddodd Dei yn galonog, a dwedodd yr hen englyn glywes i Llew Llwyfo yn ddeud yn Eisteddfod Penygroes: — " When Ned first landed in London,—he saw Many wonders uncommon : A mermaid and a Mormon, And a neis mule from Ynys Mon.'' Wei, rhaid i mi ei thori hi yn y fan yma, gan addaw yn y Nelson nesa roi hanes beth "ty-elais i yn- Liundan. Y DR. CAMPBELL A'R PARC3. EYAN HARRIS. Ni chlywais ac ni welais neb erioed yn amheu dilysrwydd yr hanesyn a ganlyn :— Pan oedd y diweddar Dr. Oanpbell, Esgob Bangor, yn Eector Merthyr Tydfil (fel y bu am fiynyddoedd lawer), yr oedd efe a'r Parch. Evan Harris yn digwydd bod allan yr un pryd, ar un dydd Sadwrn, ond ar negeseuon gwahanol, — y Dr. yn marchogaeth trwy ei blwyf eang a phoblog, yn ol ei arfer wyth- nosol, i ymweled a'r cleifion ac i chwilio am wrthddrychau elusen; a Mr. Harris yn dechreu ar ei daith bregethwrol, tua'r lie, yr ochr arall i'r afon Taf, yr oedd ei " gyhoedd- iad " i fod i bregethu tranoeth. Wedi i'r olaf gyrhaedd glan yr afon, mewn man lie y gwyddai fod cerig sarnau er's amser cyn cof, trwy gymhorth y rhai y byddys yn cro8si i'r ochr draw, canfu yr hen bregethwr parchedig fod y gwlawogydd trymion oeddys wedi gael ddyddiau a nosweithiau yn ddiweddar, wedi gorlifo a gorchuddio'r cerig sarnau ; ac yno, ar y Ian, y safai yntau am enyd, yn methu dirnad pa beth oedd iddo i'w wneyd, ac arbed " tori ei gyhoeddiad." Pan bron wedi di- galoni, canfyddwyd ef, o ychydig bellter, gan y Dr. Campbell, yr hwn, gan ofni y gallai rhywbeth fod o le, a gyflymodd ei geffyl tua'r fan ; ac wedi ei gyrhaedd, gwelodd ar un- waith beth oedd anffawd ei hen gymydog. Neidiodd i lawr o'r cy'fryw, ac ebe fe, yn y Gymraeg oreu oedd ganddo ar y pryd : " Chi eisie croesi'r afon, Mr. Harris P"—" Dyna oedd 'y mwriad i, Di\ Campbell; ond mae'n amlwg nas gallaf, ytrohwn." " 0 gellwch," ebai'r Dr., " chi myn'd i'r saddle, a fine o'ch ol; a'r ceffyl cario ni'n dau drosodd." Yr hen bregethwr, yn ormod o foneddwr i dderbyn holl gynygiad caredig y Rector, a fynai gael cynyg gwelliant gvda thipyn o gellwair ; ac ebe fe : " O, na, Dr. Campbell, nid y fi, ond chwi yn gyntaf, yn y saddle, a finau yn eich ysgil, canys ein deddf ni, y Methodistiaid, ydyw, y pregethwr goreu yn olaf." Ysgwyd Dwylaw [gan idwal]. Mewn gwledydd Dwyreiniol arfer a pobl gyfarch gwell i'w gilydd trwy y seremoni hapus o gusanu. Yn nheimlad ]lawer buasai yr un cynllun yn hynod ddymunoi yn y byd Gorllewinol. Yn anffodus i'r cyfeiilion hyn yn ein plith ni nid felly y mae pethau yn bod. Yn hanes gweithrediadau llysoedd yr hedd- geidwaid cawn adroddiadau ambell waith am lanciau yn cael eu dirwyo yn drwm am feiddio cusanu benywod yn groes i'w hewyllys, ac addefir yn gyffredinol fod hynv yn groes i'r hyn a ystyrir yn foesau da. Yr arferiad yn ein plith ni pan y mae cyfeiilion yn cyfarfod eu gilydd, a pan yn tyngu llw o gyf eillgarwch for ever y naill i'r Hall, a phan yn ffarwelio a'u gilydd yw, nid cusanu fel rheol, ond ysgwyd llaw. Os bydd y cyfeillgarwch yn dyn iawn a'r dymuniadau da yn codi o ddyfnder y galon ysgydwir llaw y pryd hwnw " hyd at y penelin." Yr adeg hono bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn hwyl. Ond nid yw pawb yn deall y gelfyddyd o ysgwyd llaw cystal a'u gilydd. Dywedir wrthym hefyd gan rai sydd yn proffesu deall y pwnc nad yw pawb mor fedrus a'u gilydd yn y gelfyddyd o gusanu. Y mae y fath beth yn bod a meistriaid yn y celfyddydau hyn fel mewn celfyddydau eraill. Tra y mae rhai yn myned drw3r y gwaith yn fedrus a deheuig y mae eraill yn ei gyflawni mewn dull hollol fwngleraidd. Bydd yn well genym deithio hanner milldir yn ychwaneg nag a fyddai raid i ni er mwyn peidio cyfarfod rhai dynion. Nid oes genym ddim yn erbyn y dynion eu hunain, ond byddwn yn teimlo gwrthwyneb- iad pendant i ysgwyd Haw a hwy. Ni chawn gan rai o honynt ond blaenau y bysedd yn unig, fel pe byddent am roddi ar ddeall i ni fod rhyw werth anmhrisiadwy yn eu dwylaw hwy, a. chan nad oes fel rheol ond ychydig o'r hyn sydd wir werthfawr i'w gael yn y fuchedd hon, nid ystyriant hwythau y dylent roddi ond cyn lleied ag sydd bos'ibl o'u llaw i gyfarch gwell i'w cyd-ddynion. Ni ryfeddem os yw y rhai sydd yn gynil gyda'u llaw yn gynil hefyd gyda'u calon. Y mae eraill ychydig yn fwy haelfrydig. Ehoddant i ni yr holl fysedd, ond dim ychwaneg na'r bysedd. Nis gellir dyweyd fod y rhai hyn eto un amser yn cael hwyl ar y gwaith o ysgwyd llaw. Yn He ein cynhesu byddwn yn teimlo eu bod yn ein hoeri. Perthyn i'r dosbarth hwn yr oedd Mr. Dombey, yr hwn a grewyd ac a anfarwolwyd gan Charles Dickens. Nid yn fynych yr ymostyngai efe i wneyd gorchwyl mor isel a chyffredin ag ysgwyd llaw. Pan y gwnai hyny, nid ei law a roddai, ond ei fysedd. Hwyrach ar yr un pryd ei bod yn drugaredd mai ei fysedd yn unig a roddai. Y mae dynion o'r fath ef mor oer fel y mae hyd yn nod eu bysedd yn oeri pobl eraill, Ni ryf eddem pe buasent, yn rhoddi eu llaw yn gyflawn, na fyddai i ddynion gael eu rhewi i f ynu ganddynt. Dylai cymdeithas atal rhai o'u bath i ysgwyd dwylaw ond yn unig yn misoedd yr haf, pan y mae y gwres yn anioddefol o boeth. Mor wahanol yw yr hwn a ddaw atom gyda gwyneb agored a llygaid siriol, ac a rydd ei law yn gyfan i ni. Byddwn yn teimlo fod ei galon ynddi. Y mae ysgwyd llaw ag un fel hyn yn ein cyn¬ hesu yn ddiarwybod i ni ein hunain. Pe ddywed rhai nad oes neb yn gallu ysgwyd llaw yn well na'r Oymry, am fod mwy o natur yn dyfod i'r golwg ynddynt nag mewn cenhedloedd eraill. Ni a obeithiwn fod hyn yn wirionedd. Os ydyw, y mae y Oymro yn cael mwy o hwyl wrth wneyd na neb arall. Beth by nag fydd yr effeithiau a gynyrchir gan y Colegau newydd y sonir am danynt ar gyfer y Cymry, ni a hyderwn na fydd peri fod llai o natur yn ysgydwad llaw y Oymro yn un o'r effeithiau hyny. Pe gwyddem y byddai i hyny fod, braidd na ddywedwn "yn mhell y b'o nhw." Yr oeddwn wedi meddwl son am y dull sydd gan rai o wasgu llaw wrth ei hysgwyd. Y mae rhai yn gwasgu ychydig, ac yn gallu gwneyd hyny mewn dull awgrymiadoi. Dywedir wrthym fod y boneddigesau ieuainc yn tueddu at hoffi y dull hwn. Y mae eraill drachefn yn gwasgu yn ddidrugaredd nes y byddant bron a'n gyru i'r ystad hono y bydd dynion ynddi pan yn gweled y ser ganol dydd. Ond yr ydym wedi dyfod i'r terfyn oeddym wedi ei osod i ni ein hunain, ac felly ni wnawn ychwaneg y tro hwn na dymuno hwyl i'n darllenwyr yn y gwaith. Royal Workers. All the Austrian royal children are taught to think of other people. The princesses often knit stockings and make clothes for the poor, especially at Christmas, and the boys give their pocket-money to help in the good work. A very pretty picture of child- life was given to me the other day by a lady who lives in Austria. She said that when there is a fair at Eeichenau the archdukes and archduchesses generally get a present of money from their parents and uncles; then they go from stall to stall just as the other children do, buying heaps of little things, especially gingerbread. Then when they get home they give away their purchases with light hearts and merry laughter. «^-"N •■ ■*» r* Mt"% ^" kr " John Jones," meddai pregethwr yn ddiweddar yn nghapel Beddgelert, gan blygu dros ochr y pulpud, " a oes genych bin o'ch cwmpas?" "Oes," meddai Jones. "Wei, pigweh y dyn yna sydd yn cysgu yn eich ymyl."