Skip to main content

Y GREAL. HYDREF, 1860. TMETHAWD Aít DDIEMDDIAD (CÁPITAL PUNISSMENTJ, SEP A YDYW Y FATH GOSBEDIGAETH YN GYFREITHLON, YN OL YR YSGRYTHYRAU, NEU NAD YDYW? ffiatt g ParcJj. ©. ÎSoSerts, ISetíjel, Eassateg. (Buddygol yn Eìsteddfod Freiniol Iforaidd Aberdare, 1857 J DIENYDDIAD YN NGWYNEB YSBRYD AC ADDYSGIADAU CRISTIONOGAETH. (PARHAD O TÜDAL. 148.) 2. Os nad yw Cristionogaeth yn cyn- nwys gwaharddiad pendant i ddienydd- iad, mae yn eithaf eglur fod ei hysbryd a'i thuedd cyflredinol yn milwrio yn ei erbyn. Gwir fod nodwedd haelfrydig Cristionogaeth, rai gweithiau, wedi cael ei ddirwthio i eithafion, hyd y nod at ddymchweliad damcanyddol pob rhyw j lywodraeth. Ond nid yw yr efengyl j na'i gwir gyfeillion yn gyfrifol am y fath rysedd gwyllt-ddychymmygol. Trefn | gras ei hun, mor bell ag y gwyddom ni, yw yr esiampl uchelaf mewn bodolaeth ogyfìawnder anhyblyg yn ngweinyddiad llywodraeth. Yn ei waith yn estyn tru- garedd i'r euog, mae Duw yn cael ei ddadgnddio fel "Duw cyfiawn," yn gystal ag fel "Duw pob gras." Mae yr anghen am lywodraeth yn cael ei osod allan yn ngbyfansoddiad yr eglwys Gristionogol. A thra y bydd i ddynoliaeth barhau yr hyn ydyw yn awr, fel ag i beri fod cleddyf awdurdod yn anghenrheidiol i beri ofn i weithredoedd drwg, ni bydd i'r llywodraeth wladol " ei ddwyn yn ofer.'' Nid yw rheolau haelfrydedd a maddeuant Cristionogol yn cau allan hawliau cyfiawnder a threfn. Pan yn dyfod yn Gristion, nid yw dyn yn peidio a bod yn ddinesydd : mae rhwymedig- aethau ac iawnderau y berthynas hòno yn aros yr un gyda golwg arno. Un o'r rhwymedigaethau hyn yw erlyniad y drwgweithredwr a'r digyfraith. Ond yn nghyflawniad y ddylédswydd yma, pa un bynag ai fel uni^olion, neu fel gwar- cheidwaid trefn a Ues gwladyddol, gel- wir ar Gristionogion i ymryddhau oddi- wrth syniadau dialeddol luddewiaeth, ac i arfer moddion mwy hynaws a dyn- garol na chosbau barbaraidd cymdeithas mewn sefyllfa baganaidd ac anwaraidd; —i efelychu Duw, yr hwn, pan yn ym- weled am gamwedd, sydd yn gwneyd hyny dan ly wodraeth teimladau o dosturi a meddyliau o gariad. Mae dysgeidiaeth Crist yn gosod hyn allan, a'i esiampl yn ei egluro ac yn ei gorphori. Unwaith yn ystod gweinidogaeth Crist y mae genym hanes am y gosb o farwolaeth yn cael ei dwyn ger eifron: ac y mae y modd yr ymddygodd ar yr achlysur hyny, yn eglur ddangos tuedd hynaws yr efengyl gyda gol wg ar y pwnc. Dyg- wyd ato wraig wedi ei dal "ar y weithred yn godinebu.'' Y rhai a'i dygasant ato a gymmerasant ofal i'w hysbysu, fod Moses yn y gyfraith, yn gorchymyn llabyddio y cyfryw un. Gofynwyd iddo, " Beth gan byny, yr wyt ti yn ei ddy- wedyd?" Yn oí ei arferiad yn ngwyneb twestiynau o'r fath, mae yr ìesu yn dar.gos anewyllysgarwch i ymyraeth dim â'r mater; ond gan fod yr Iuddewon, oddiar ryw ddichell bradwrus yn pen- derfynu mynu cael rhyw ateb ganddo, y mae o'r diwedd yn Uefaru y geiriau nodedig hyny a barodd i gyhuddwyr y wraig droi eu cefnau, y uaill ar ol y llalí, wedi eu llenwi âg euogrwydd a chywil- ydd ; " A gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol. A'r Iesu a ddywedodd wrth y wraig, Pa le y mae dy gyhuddwyr di? Oni chondemniodd neb dydi?" hyny yw, onid ées neb o houynt wedi cyhoeddi y tííedfryd o farwolaeth arnat ti? " Hithau a ddy- wedodd, Naddo neb, Arglwydd." Yn eu barnau personol yr oeddynt oll wedi ei chondemnio, ond yn gyfreithiol nid oedd neb wedi gwneyd hyny; ac y mae geiriau y wraig a Christ yn profi mai at 28