Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. MEDI, 1860. COFIANT AM Y BRAWD OWEN OWENS, GWEINIDOG DiWEODAR GRANBY ROW, MANGHESTER. <San b Parr.fj. iî. Jones, aianllgfni. Ganwyü gwrthddrych y cofiant hwn yn Beaumaris, Môn, Mai 4ydd, 1801. Enwau ei rieni oedd, Owen ac Ann Owens. Galwedigaefh ei dad oedd Gwehydd, a dygwyd yntau i fyny yn yr un gelfyddyd, yr hon a ddysgodd yn dda, ac a ddilynodd yn ddiwyd am lawer o flynyddau. Uu brawd yn unig a feddai, y Parch. Richard Owen, sydd yn awr yn Abergwaen. Bu ganddo amryw chwiorydd, tair o honyr.t sydd yn awr yn fyw. Y mae Jane, yr hynaf o'r teulu, yn byw yn Llangefni, Môn ; Mary yn Abersychan, Mynwy; ac Elisabeth, yr ieuengaf, yn Nhrefdraeth, Penfro. Y maent oll yn profí'esu crefydd, ac mewn amgylchiadau cysurus yn y byd. Ni chafodd Owen nemawr ddim ysgol ond ysgol Sul; gwnaeth ddefnydd mawr o honi, a bu yn selog iawn drosti ar hyd ei oes. Bu mewn ysgol ddyddiol yn Nghoiiwy am ryw dymhor ar ol myned j faintioli i allu cynnal ei hun mewn ysgol. Rhyw dymhor byr a gafodd efe yno; pa fodd bynag, trwy ddiwydrwydd ac ymdrech, daeth i fedru defnyddio llyfrau Saesonaeg yn weddol dda. Hyd yr wyf yn deall, y Bedyddwyr a arfer- ai wrando o'r dechreu. Nid wyf yn gwybod yn fanwl am ddechreuad ei yrfa grefyddol. Dywed ei frawd ei fod wedi hod mewn tywydd blin yn achos ei gyf- lwr am fisoedd cyn iddo broffesu crefydd. Ymddengys mai yn Mangor yr ydoedd yr adeg hòno. Yno y bedyddiwyd ef yn y môr, gan John Michael, Soar, Môn, tua y íiwyddyn 1823. Yno hefyd, yn mhen rhyw enyd, y dechreuodd bregethu. Symmudodd yn fuan i ie ei enedigaeth i Beaumaris. Hydref 18fed, 1824, priododd gydag aelod o'r eglwys, o'r enw Chi istiana Williams, yr hon sydd yn awr yn fyw, gydag amryw o blant yn galaru ani biiod hawddgar, a thad serch- us. Ar ol bod yn pregethu gyda fi'ydd- londeb yn Beaumaris, a manau ereill, am flynyddau, cafodd alwad unfrydol gan y frawdoliaeth yn Beaumaris a Llangoed, i weinidogaethu yn fwy cysson yn eu plith. Cynnaliwyd cyfarfod i'w neillduo yn Beaumaris, Tachwedd 22ain, 1831. Nid oedd y ddau le y pryd hyny ond gweiniaid iawn; mewn canlyniad, nid oedd yn caei ond ychydig at ei gyn- naliaeth. I wneyd y diffyg i fyny, yr ydoedd yn gorfod gweithio yn galed trwy yr wythnos, a phregethu yn gyff- redin dair gwaith bob Sul. Llafuriodd felhyn gyda diwydrwydd dirwgnach am flynyddau lawer. Yr oedd ei Feibl yn wastad yn ei ymyl, ac yr oedd yn medru darllen a myfyrio, a gweithio yr un pryd, oddigerth ar adegau y byddai prysurdeb mawr. Teithiodd ddegau o weithiau dros ugain milltir ar ddydd yr Arglwydd, a phregethu dair gwaith niewn lleoedd tlodion, heb gael nemawr ddim am ei lafur. Wrth ei weled yn y fath chwys a lludded ar ol dychwelyd o un o'r teithiau hyn, dymunai ei briod un- waith amo beidio poenydio cymmaint arno ei hun, ac yntau yn cael dim am ei boen. "Taw, taw, Cristibach," meddai yntau, " y mae fy nhal i yn ddigon sicr, y mae coron ogoneddus yn ol i mi." Llaf- uriodd fel hyn yn ddidor trwy y blyn- yddau y bu yi:o, fel un yn gweled yr anweledig. Bu tro rhyfedd arno nnwaith yn Beaumaris. "Dygwyddo'Iî rhyw wyîíînos yn brysurach nag arfer gyda ei waith; yr oedd yn gorfod gweithio mwy nag oriau cyffYedin bob dydd irwy yr wythnos. Ërbyn nos Sadwrn, ar ol gweithio yn hwyr, aeth ibetrusder beth a wnai am bregeth erbyn y Sul. Trwy ei fod nior flinedig, nid aìlai feddwl mewn dim trefn am un testyn. Nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond myned ar ei liniau i ofyn am gynihorth ÜUW. Bu raid inyned i'r gwely feliy, mewn Uudded, heb gael un galeu ar ddim. Ryw bryd yn y nos, gwelai yr enwog John Elias wrtb. erchwyn ei wely, yn pregethu prege|b-^gyfan iddo, heb neb ond tif ei hun ÿ«" gwrando. Ca.'V>dd y bregeth hòno agafodd mewn breuddwyd y fath argraff ar ei feddwl, fel y gallodd ei phregethu y dydd canlyr.olgyda hwyl a dylanwad mawr. Byddai yn blèser ganddo hyd ddyàd ei farwolaeth i gbfl'-