Skip to main content

Y GEEAL. AWST, 1860. HYMNYDDIAETH. ffiatt b parclj.». SIIẃ, Strljûtog. Y mae Hymnyddiaeth {Hymnology) yn air o ystyr ëang, a dynoda gyfansoddi Hymnau, casglu llyfr Hymnau, a dad- ganu Hymnau yn gerddgar a soniarus ar dôn a goslef, er mawl i Dduw yn ei gyssegr. Yn fyr, pob peth perthynol i Hymnau. Geiriau o'r un ystyr, yn ar- wyddo moliant, yw Salm a Hymn ; er yr arferir y blaenaf i ddynodi yr emynau santaidd a elwir Salmau Dafydd, a'rolaf i ddynodi mawl-eiriau a phennillion a wneir o nerth awen a phrofiad gan ddyn- îon cyfFredin. Y mae Hymuau, gan kyny> yn farddoniaeth, ac yn farddon- iaeth ardderchocaf, sef cerddfoüant i Dduw, Tad y gân,—yn farddoniaeth ar- westol, sef cân yn gofyn cymhorth per- seiniau cerddorol i'w gosod allan mewn grym ac effeithioldeb. Y mae cyfansoddiadau barddonol y rhai ua fwriadwyd i'w canu; un felly yw "Coll Gwynfa;" a rhai felly, yn bresennol o leiaf, yw yr awdlau, y Cyw- yddau, a'r Ynglynion Cymreig; er feallai fod yr hen Gymry celfyddgar yn arfer dadgan eu caniadau cy wrain a phlethedig gan dant. Enaid a sylwedd barddonìaeth yw iaith danllyd a chynhyrfus y nwyd a'r dychymmyg, o dan lywyddiaeth barn a rheswm ; ond barddoniaeth o ran y wisg, neu yr addurn allanol, yw iaith briodol i'r syniadau, wedi ei chyfleu mewn dull cyngherddoí a hysain o ran corfan, acen, cynghanedd, a phrifodl;—yn fyr, Cerdd- oriaeth, neu fiwsig geiriau yw y gelfyddyd farddonol. Os nad yw y darlun hwn, o ran sylwedd, yn gywir, ac os nad yw y pethau hyn yn hanfodol i adeilad bardd- oniaeth, atolwg pa wahaniaeth peirian- nyddol sydd rhwng barddoniaeth a iaith rydd? Cerddoriaeth, o'r tu arall yw harddon- ìaeth sén. Dwy chwaer yw barddon- iaeth a cherddoriaeth; ac y mae eu heffeithiau, mewn cydweithrediad â'u gilydd, yn anorchfygol. Bardd a cherdd- or oedd Orpheus, yr hwn, yn ol y chwedl Baganaidd, a chwareuai ei delyn mor swynol nes y safai yr afonydd llifeiriol i wrando arno, yr annghofiai y gwylltfilod eu ffyrnigrwydd yn sŵn ei dônau, ac y dawnsiai y mynyddoedd gyda'i alawon. " Trwy'r dolydd trawai'r delyn, Oni bai'r ias yn y bryn."—G. Owain. Pan frathwyd Eurdece ei wraig yn farwol gan sarph wenwynig, wrth fîbi rhag trais Aristeus, meddyliodd Orpheus am ei dwyn yn ol o Hades drwy swyn ei delyn, a chafodd dderbyniad ryw fodd i Iys Pluto. Effeithiodd ei delyn ar y wlad bruddwyllt hòno yn ddirfawr,— safodd olwyn Ixion heb droi, a gorphwys- odd maen Sisyphus ar lethr y mynydd, ac annghofiodd Tantalus ei syched angerddol. Dofwyd cynddaredd yr ell- yllon gan ei fiwsig, a swynwyd PÍuto a Phroserpina, brenin a brenines y dyfn- der, i'r fath raddau nes y gollyngasant Eurdece yn ol, ar yr ammod iddo fyned o'i blaen a pheidio a tliroi i edrych a oedd hi yn ei ddilyn. Ond gan faint ei lawenydd troes ei ben i gael cipo'.wg arni, ac ar hyny aeth hithau yn ol gydag ysgrech dorcalonus ac anobeithiol. Neu yn ol iaith D. Ddu,— " Clybuwyd, synwyd wrth son, Gelwydd ac ofergoelion, I'r decaf Eurydecen Oedd anwylferch wiwferch wen, Gael ei dwyn goleu doniols O gethern uffern yn ol Drwy waith cerddor rhagorawl Pan ganodd diengodd y diawl!" Y mae y chwedl yn brawf o effeithioí- deb cerddoriaeth. Effeithiodd telyn Dafydd ar Saul brenin Israel nes gyru y drwg ysbryd o hono, a rhoddi tawelwch amserol i'w feddwl. " Pan oedd yr yshryd drwg dir'ol Yn blino Saul y brenin, Fe lonyddai hwn dros dro, Ond chwareu â dwylo'r delyn." Chwaer awen wych oreuwaith, Yw plethedig fiwsig faith." Nis gellir gwneyd dim a fyddo yn fawreddog a chynhyrfus heb fardd a cherddor. Y mae achosion llawenydd yn galw am eu gwasanaeth; ni ddygir rhyfelaeth a chelanedd yn mlaen heb íìwsig; rhaid i awen a chân ardderchogi 22