Skip to main content

Y GEEAL. GORPHENAF, 1860. TRAETHAWD AE DDIENYDDIAD (CAPITAL PUNISHMENTj, A YDYW Y FATH GOSBEDIGAETH YN GYFREITHLON, YN OL YR YSGRYTHYRAU, NEU NAD YDYW? ©«118 $atxf). QS. UoUttü, ÌSttttl, Eassaleg. (Buddygol yn Eisteddfod Freiniol Iforaidd Aberdare, 1857J CYNNWYSIAD PENNOD III. Y dadguddiad Cristionogol, y safon berfiaith a goruchel at ba un yr ydym ni i apelio.—Apeliadau at ddeddfau a defodau yr Hen Destament yn annghaniataol, ond yn unig mor bell ag y mae y cyfryw yn cyd daro a lleferydd Duw yn ei Fab.—Rheolau Cristionogol i'w dysgu, yn benaf, oddiwrth ysbryd ac egwyddorion y " Gwirioneddfely mae yn yr Iesu."—{ì,) Gwendidac anmherthynolrwydd y ddadl nacaol, sef nad yw y Testament Newydd yn gwahardd dienyddiad.—Dystawrwydd Crist a'r apostolion mewn perthynas i sefydliadau gwladol.— Tuedd niweidiol y ddadl nacaol gyda golwg ar rai o ddrygau mwyaf ysgeler cymdeilhas, megys caethwasanaeth, $c.— Y Testament Newyddyn cynnwys egwyddorion mawrion a chyffredinol ag sydd yn anocìleladwy yn diwygio yr hyn nad yw mewn modd pendant yn ei waliardd.— (2,) Cristionogaeth o ran ei hysbryd, tra yn cefnogi pob iawn-lywodraeth, yn condemnio cosbau barbar- aidd a dianghenrhaid.—Crisi a'r wraig a ddaliwyd mewn godineb.—Profion ereìll nad yw ysbryd yr efengyl yn condemnio y llofrudd i farwolaeth.— Y ddadl oddiwrth ysbryd yr efengyl yn cael manylu arni: (1,) Darladaeth egwyddor sylfaenol moesoldeb Crisiionogaeth yn galw amfod diwygiad a llesiant moesol y troseddwr yn cael ei wneyd yn un o brif ddybenion cosb, yr hyn sydd yn milwrio yn erbyn dienyddiad. —(2,) Gwaharddiad Cristionogaeth o'regwyddor Iuddewig o ddialyddiaeth, ar yr hon y mae dienyddiad yn sylfaejiedig.—(3,) Ygoleu yn mhaunygesyd yr efengyl allan rayolygfeydda thynged tragywyddoldyn yn gwahardd dienyddiad.—(i,) Gwir syniad Cristionogol yn condemnio y gosb o farwolaeth. DIENYDDIAD YN NGWYNEB YSBRYO AC ADDYSGIADAÜ CRISTIONOGAETH. " Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd, gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lafarodd wrthym ni yn ei Fab." Gellir cymmeryd y geiriau hyn fel all- wedd i fyned i mewn i wir ystyr ac amcan y llytbyr at yr Hebreaid; sefprofifod yr hen oruchwyliaeth, er ei bod yn ddwyfol yn ei tharddiad,wedi ei diddymu, i roi lle i'r oruchwyl'aeth newydd. Duw oedd yn llefaru trwy Moses a'r pro- Ehwydi; ond y mae dyben y llafariad wnw wedi ei gyflawni: "Y ddeddf oedd ein hathraw ni at Grist; eithr wedi dyfod flfydd nid ydym ni rr.wyach dan athraw." " Canys yn ddiau y mae dirymiad i'r gorchymyn sydd yn myned o'r blaen, o herwydd ei lesgedd a'i afles." Wrthym ni mae Duw yn Uefaru yn ei Fab; mewn geiriau ereill, y dadguddiad Cristionogol yw yt'ur.ig reol fawr a goruchel wrth ba un yr ydym ni i ymlwybro; yma y cyn- nwysir yr amlygiad diweddaf a pher- fíeithiaf o ewyllys ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Mae yr ystyriaeth yma o bwys ymarferol mawr yn ein hym- chwiliadau o berthynas i'n dyledswyddau í'el Cristionogion. Mae llawer, yn eu gwaith yn amddi- fFyn eu hoffbynciau, yn apelio atyr hen Destament neu y Newyddyn ddiwahau- iaeth, yn ol fel y byddo y naill neu y llall yn ateb oreu i'r achos mewn llaw. Pan y mae rheolau ac egwyddorion yr efengyl yn rhy bur a goruchel i ateb golygiadau llawer, neu yn milwrio yn erbyn eu rhagfarnau a'u harferion, apel- iant yn fuddygoliaethus at ddeddfau at esiamplau Iuddewig; megys y gwna Miltwn, wrth geisio profi cyfreithlondeh anwiredd a dygasedd dan amgylchiadau neillduol;* ac megys y gwneir yn ddi^ eithriad gan amddiffynwyr dienyddiad. Gellir ei gosod i lawr fel rheol gyffred- inol a safadwy, nad ydys i apelio at archiadau a goddefiadau ag oeddynt yu perthyn i'r goruchwyliaethau rhagredeg- o), ond mor bell ag y maent yi< cyd-daro â lleferydd Duw yn ei Fab. I'n Har- glwydd ein hunain yr ydym yn sefylî neu yn syrthio; a'n Harglwydd ni yw Crist. Ac wrth benderfynu y cyfatebol- rwydd yma, nid yw yn ofynol i ni allu dangos l'od unrbyw ddeddf neu arferiad « Gwel " ffilton's Christiaç Doctriue.*