Skip to main content

Y GREAL MEHEFIN, 1860. BLAGUE MYFYEDOD. ' Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydfl ; o hyn allan rhoddwyd eoron cyfiawnder i'w chadw i mi," &c—2 Tim. iv. 7, 8. <!5an g yarfíj. JB. ©lians, EJuòIcî?. General Havelock, pan yn nglyn cysgod angeu, a alwodd ar ei fab, ac a ddywedodd wrtho, " Fy mab, Tyred yn agos, ac edrych pa fodd y gall Cristion farw." Yn ngeiriau ein testyn, dangosír i ni pa fodd y gatlasai Paul farw. Yr oedd amser ei ymddattodiad wedi nes- hau, a'r ergyd farwol ar gael ei rhoddi. Dyma hen gadfridog dewr a ffyddlon ar roddi heibio y cleddyf, a therfynu ei yrfa. Saif ar geulan yr afon, ac edrych yn dawel, ac yn ddigyífro ar dair o olyg- feydd a ymagorant o'i flaen—tair o sefylìfaoedd dyddorol, â pha rai y daliai gyssylltiad agos,—yr un gynl, yr un bres- ennol, a'r un ddyfodol. Sylwn arnynt,— I. Yr un gvnt. 1. " Mi a ymdrechais." Bywydoym- drech yw bywyd y credadyn. Mae gan- ddo elynion. Gelynion lliosog, dichell- gar, a dewr. Tueddiadau llygredig ei galon, hudoliaethau swyiigar cymdeith- as, a dylanwadau ac ymosodiadau grym- us teymas y tywyllwch, n safanto'i flaen fel cynnifer o elynion cyfrwys, nerthol, a phenderfynol. Ymdrecha â hwynt. Mae yr ymdrech ynreal. Ymladdanid fel un yn curo'r awyr. Nid peth dychymmygol yw, eithr peth profiadol. Llawer a feddant ar elynion; ond ni ymladdant â hwynt. Mae gorchest rhwng y Cristion a'i elyn- ion ef. Ymdrech deg yw. " Yr ymdrech deg" fel y dylai y geiriau gael eu cyfieithu. Dynodir hi oddiwrth bob ymdrech arall gan ei thegwch. Ni ddrygodd yr ymdrech hon neb erioed, Ni chanfyddwyd ymdrech erioed yn ein byd ni, oddi eithr hon, na chafodd rhyw rai eu drygu ganddi. Brwydrau ereill a adawsant o'u hol ddifrod, dagrau, a Gwnaeth ddaioni ifyrddiynau. Daioni i deyrnasoedd a chenedlaethau ; i ddin- asoedd a threfydd; i deuloedd ac i unig- olion. Drylliodd gadwynan y caeth, dyrcháfodd yr isel, &c. Tyrfa nas gall rhifyddiaeth ei chyfrif, a floeddia heddyw »än o foliant ar fryniau Seion, am y daioni a wnawd, a'r bendithion a sicr- hawyd, trwy yr ymdrech hon. Ymladdwyd ki gan Paul hyd y diwedd. Ni chiliodd gam trwy ystod y frwydr. Ni osododd ei gleddyf yn ei wain, cym- maint ag unwaith. Ni osododd ei arfog- aeth o'r neilldu am amrantiad. Safodd ar y maes yn wrol a phenderfynol, o'r fynyd y dechreuodd yr ymdrech, hyd yr awr y darfu iddo ei gorphen. Nid oedd ei holl fywyd Cristionogol ond un ymdrech ddiorphwys. 2. " Mi a orphenais fy ìigyrfa.'' Dyga y figure hyn fy wyd y credadyn o'n blaen mewn agwedd arall. Aml y cymherir ein bywyd naturiol, a'n hywyd crefydd- ol, i yrfa. " Trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni." Ben- thycir y ffugyrau hyn o gampau y Groeg- iaid. Mae gan yr yrfa hon, fel y gyrfa- oedd gynt, ei nhod, ei chyfreithiau, ei thystion, ei gwobr, a'i Barnydd. Darfu i'r apostol ei dechreu mewn ysbryd, can- lynodd hi mewn amynedd, gorphenodd hi mewn anrhydedd. Gosodwn ninnau heibio bob pwys, a rhedwn yr un yrfa, gyda hoenusrwydd a phenderfyniad, gan edrych ar Iesu, &c. 3. " Mi a gedwais y ffydd." Cadwodd hi fel cyfundraeth o'wirioneddau ac ath- rawiaethau yn ei phurdeb gwteiddiol, Ni ddyoddefodd i ddefodau yr Iuddew- on, nac i athroniaeth na moesffurfiau y Cenedloedd i'w llychwino i'rgraddlleiaf, Cyhoeddai anathema ar ben angel dys- gleiriaf y nefoedd, pe dygai i mewn efengyl arall. Cadwodd hi fel cyfun- drefn o ras. Gwnaeth broffes o Grist- ionogaeth yn y dechreu, bu yn ffyddlon i'r broffes hò'no hyd y diwedd. Gwr- teithiodd ysbryd, meithrinodd egwyddor- ion, ymarferodd ddeddfau, a dadblyg.- odd rasusau a rhagoriaetbau crefydd drwy ei fywyd. Bu yn ngwyneb pob gorthrymder a gwrthwynebiad, yn ffydd- lon i'w wystl. Cofiodd ei addewid yn y 16