Skip to main content

Y GREAL. MAI, 1860. TRAETIIAWD AR DDIENYDDIAD CCAPITAL PÜNISBMENT), 8EF A YDYW Y FATH GOSBEDIGAETH YN GYFREITHLON, YN OL YR YSGRYTHYRAU, NEU NAD YDYW? ÖBfan b $a«Ij. ©. iSoterts, ÎSettJel, îîaasaleg. (Buddygol yn Eisteddfod Freiniol Iforaidd Jberdare, 1857 J PENNOD II. DIEMYDDIAD YN NGWYMEB ADDYSGIADAU HANESIOL VR HEN DESTAMENT. (PARHAD 0 TUDAL. 77.) Os dadleuir fod y ddeddf ddienyddol a roddwyd i Noah o gymhwysiad cyfF- redinol a pharhaus, am ei bod yn perthyn i'r oruchwyìiaeth batriarchaidd, ac nid i'r un Iuddewig, ar yr un tir y gellir dadlu fod aberthiad ac enwaediad i bar- hau mewn grym yr un modd; ac hefyd, fod cyflwr a safon moesol ac ysbrydol dynoliaeth yr un y pryd hyny ag yn awr, yr hyn sydd yn hollol aunghywir, Os dywedir mai defodau seremoniol ac ar- wyddluniol yn cynnrychioli gwireddau moesol yn nghyflwr mabanaidd y byd oedd aberthiad ac enwaediad, &c; peth- aù ag sydd yn awr wedi eu gwneyd yn ddianghenrhaid trwy ddadguddiad per- ffeithiach ac ysbrydolach, gallwn ddweyd rhywbeth yn debyg gyda golwg ar y ddeddf ddienyddol Noachaidd yn gystal ag Juddewig. Yr oedd rhywbeth o'r iawnol-seremoniol (os goddefir yr ymad- j rodd) yn perthyn iddi, fel y mae y deg j a thrigain, a'r enwog Calmet, wedi j eymmeryd gofal i arwyddo yn nghyfieith- iad y geiriau. Mae yn eithaf amlwg i'n meddwl ni y gellir eu rhifo gyda'r dos- barth hyny o sefydliadau cnawdol ag oeddynt yn gyfaddasol i gyflwr o wybod- aeth anmberffaith yn nghylch pethau ysbrydol a thragywyddol, ac o gosbau a bendithion tymhorol, ag oeddynt wedi eu gosod dros amser terfynol i arddangos y gwireddau, ac i feithrin y syniadau hyny ag sydd, mewn modd mil mwy perffaith, yn cael eu dysgu yn awr i ni yn athraw- laethau ysbrydol, a gwersi syml a grasol y dadguddiad efengylaidd. Mae y ffaith mai ar yr un egwyddor yr oedd gwaed y bwystfil a laddai ddyn yn cael ei ofyn gan Dduw, a gwaed y llofrudd dynol, yn myned yn mhell i brofi hyn:—"Yn ddiau gwaed eich einioes chwithau a ofynaf fi; o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law pob dyn.'' Profir yr un peth yn mhellach oddiwrth y ffaith fod y ddeddf hon, os rhoddir iddi ei llawn ystyr, yn cynnwys pob math o ddynladdiad, bwriadol neu anfwriadol* Mae yn amlwg oddiwrth yrystyriaethau hyn fod rhyw ddybenion mewn golwg i gael eu hateb trwy ddeddf ddienyddol Noah o wahanol natur i ddim ag sydd yn perthyn yn gyfreithlon i reithwyddiaeth wladol yn nghosbedig- aetb troseddwyr. Yr egwyddor fawr a ddysgir yma yw, nid yr anghenrheid<- rwydd o ddienyddiad fel cosb gyfreitíriól er diogelwch a Uesiant cymdeithas war- eiddiedig, ond cyssegredd bywyd yn ngolwg Duw,—"Na fwytewch gig yn nghyda'i einioes, sef ei waed,"—ac yn neillduol y bywyd dynol, yr hwn oedd mor gyssegredig yn ngolwg Duw fel nad oedd dim llai na bywyd y dyn neu y bwystfil a fuasai yn ei ddinystrio yn cael ei ofyn yn ad-daliad iawnol am dano. Dyma egwyddor sylfaenol y ddeddf ddienyddol a roddwyd i Noah; argraffu yn ddwfn ar feddyliau dynion nad oedd * "Many Orienial naiions carry oui ihe Noachic law in iis lìterality (as all oughi to do who regard it as binding now), and still hold the nearest relatẁe bound to avenge a molent deaih, whether the violence was intentional or not. A most touching illuslra- tion of this was mentioned but lately by an Eastem iraeeller, in which the attached relative ofa ladwas reauired to fcill him for accidentally shooting hü cousin, ifwe retnember rightly." 13