Skip to main content

Y GBEAL. CHWEFROR, 1860. CREFYDD DEITLITAIDD. Ypwynt a roddwyd yn Nghyfarfod Chwarter y Cefn mawr, i bregethu arno yn Nghyfarfod Chwarter Glynceiriog, 1859. Crefydd yw gwasanaeth i Dduw. Gwnaeth yr Arglwydd bob creadur byw yn y byd hwn i wasanaethu dyn ; a gwnaeth ddyn i'w wasanaethu ei Hun. " Arglwyddiaethwch,'' ebe y Creawdwr, "ar bysg y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymmudo ar y ddaear;" (Gen. i. 28.) ac am y dyn y dywedodd, " I'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwnaethum ef." (Esai. xliii. 7.) " Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac efe yn unig a wasanaethi." (Mat. iv. 10.) Y mae Duw i'w wasan- aethu genym yn bersonol, yn deuluaidd, a chynnulleidfaol. Beth sydd yn fwy pwysig a gwasanaethgar i lwyddiant santeiddrwydd ar y ddaear, na dygiad yn mlaen, yn rheolaidd ac egniol, oddiar gariad, grefydd yn y teulu? Y ffordd a gymir.erwn i draethu ar grefydd deulu- aidd yw ífordd y Beibl. Gŵyr yr hwn a greodd feddwl dyn sut i gyfleu goleuni bywyd a phurdeb i'w galon ; a'r Ysbryd a lefarodd y gwirionedd a'n cynnorth- wyo i osod ei wirioneddauyn effeithiol o flaen y meddwl! Yn I. Sylwn ar addysgiadau yr Ysbryd Glan i wahanol aelodau y teuìu,—y gwr A'R WRAIG, Y RHIENI a'r PLANT, Y meistriaid a'r gwasanaethyddion. Yn ei gariad goruc.hel at ddedwyddwch amserol a thragywyddol dyn, cynnysg- aethodd yr Arglwydd ef â chymhwys- derau i'w adnabod, ac adnabod ei rwym- edigaeth tuag ato ef a'i gydgreaduriaid; a rhoddodd iddo y Beibl i'w gyfarwyddo i gytìawni ei rwymedigaeth at y naill a'r lla.ll. Oddiar yr amrywiol berthynasau y cyfyd ein dyledswyddau, a chyflawn- iad o'n dyledswyddau, oddiar gariad, yw crefydd. Y berthynas flaenaf yw nòno rhwng y creadur a'i Greawdwr,— rhwng derbynydd daioni, a Rhoddwr pob daioni; a'r rhwymedigaeth benaf yw caru yr Arglwydd â'n holl galon, trwy ufyddhau i'w orchymynion, ac ymhyf- rydu yn ei gymdeithas. Dyma sylfaen ein dyledswyddau at Dduw. Y berth- ynas nesaf yw yr un rhwng gwr a gwraig. Dyma y teulu yn «i gyflwr syml. Ed- rychwn arno yn dyfod o dan law gywrain ddaionus Duw, a'r CreawdWr yn priodi y ddau greadur santaidd, uchel, ac ar- dderchog. Wedi llunio y dyn â'i ddwy- law ei hun o bridd Paradwys, a rhoddi rhan o hono ei hun yn fywyd ynddo, creasai y creaduriaid byw ereill, ond wedi eu dwyn o flaen Adda, ni chafodd yn eu plith un i fod yn ymgeledd gym- hwys iddo. "Nid da bod dyn ei hunan,'' am hyny rhaid i ddaioni Duw gael yrn- geledd gymhwys iddo ; a dyma y ffordd a ddefnyddiodd doethineb; " A'r Ar- glwydd Dduw a wnaeth i drwmgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd; ac efe a gymmerodd un o'í asenau ef, ac a gauodd gig yn ei He hi. A'r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymmerasai efe o'r dyn, yn wraig, ac a'i dyg at y dyn. Ac Adda, a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegyd o wr y cymmerwyd hi. O her- wydd hyn yr ymedy gwr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd." (Gen. ii. 21—24.) Pan ddeff'rodd Adda, ac agor ei lygaid, gwelai withddrych hawddgarach nag a welsai erioed o'r blaen ; curodd ei galon, gwridodd ei rudd, a thorodd allan mewn ysbryd prophwydol, " Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i; hon a elwir gwraig, oblegyd o wr y cymmerwyd hi;" a darluniodd ymddygiad dynion hyd ddiwedd amser, tra nad oedd ond efe ei hun ar y ddaear. " O herwydd hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glỳn wrth ei wraig, a hwy a fyddant yn un cnawd.'' Gwelwn ofal Duw i sicrhau egwyddor iawn yn y teulu cyntaf,—yr un egwyddor ag oedd ganddo ef yn gwneyd pob peth,—cariad. Pe buasai y Creawdwr yn gwneyd Efa o'r pridd, buasai y berthynas yn agos, buasai yn chwaer o un dad un fam ; ond rhaid gwneyd y berthynas yn nes,— gwneyd y wraig o ymyl calon y dyn, i fod yn rhan o bono. Dyma y berthyna», sylfaen y ddyledswydd;—Gwraig y» rhan o'r gwr, ac i fod yn ymgeledd gym-