Skip to main content

Y GREAL IONAWR, 1860. DIWYGIAD TY COMELIUS. " A Phedr eto yn Uefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn ciywed y gair."—Act. x. 44. Daeth Iosu Grist i'r byd i sefydlu ] teyrnas yma, a hòno yn seiliedig ar ei waed ei hun. Y mae llawer brenin wedi ennill teyrnas a choron, trwy dywallt gwaed y deiliaid, eithr nid felly Iesu ; ennillodd ef yr orsedd a'r goron trwy farw ei hunan, ac ar sail ei farwolaeth y inae yn cario ei lywodraeth yn mlaen yn y byd. Y mae yn y deyrnas hon ryddid perffaith i'r holl ddeiliaid, a breintiau cyfartal i bawb. Y mae y Brenin yn sicrhau ufydd-dod i'w gyfreithiau trwy ddylanwadu ar y dyn, ac nid trwy ei orfodi; trwj7 roi calon newydd,ac ysbryd newydd ynddo; trwy ennill ei serchiadau, ac nid trwy ei orfodi. Rhoddwyd agor- iadau y deyrnas yma i Pedr; efe a gaf- odd y fraint o'i hagor gyntaf i'r íuddew- on a'r Cenedloedd; " Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti mai ti yw Pedr." Yr ydwyt ti wedi bod yn dweyd am danaf fi, ac wedi dweyd yn gywir am fy mherson, a hyny yn wrthgyferbyniol i farn y byd am danaf fi ; " Yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi; a rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd.'' Yr cedd agoriad yn y Dwyreinfyd yn arwyddlun o awdurdod. Yr oedd bren- inoedd weithiau yn gwisgo arwyddlun o agoriad ar eu hysgwyddau, fel arwydd o'u hawdurdod ; ac y mae agoriad yn cael ei ddefnyddio yn y Beibl yn ffugyr o awdurdod, " Rhoddaf hefyd agoriad tý Dafydd ar ei ysgwydd ef." Dywedodd Iesu wrth Ioan yn Patmos, " Ae y mae genyf agoriadau uffern a marwoìaeth." Gan hyny, wrth roi agoriadau teyrnas nefoedd i Pedr y meddylir, rhoi awdur- dod ddwyfol iddo i sefydlu Cristionog- aeth gyntaf av ol dyrchafiad Crist yn mhlith yr Iuddewon a'r Cenedloedd. Ar wyl y Pentecost fe aeth Pedr i fyny i lerusalem, ac agoriad mawr y deyrnas ar ei ysgwydd, a rhoddodd ef yn y drws, ac agorodd ef i'r Iuddewon, ac agorodd ef mor llydan fel yr aeth tair mil i mewn ar unwaith. " Yna y rhai a dder- byniasant ei air ef yn ewyllysgar a fed- yddiwyd, a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnw yn nghylch tair mil o eneidiau." Yn y ddegfed bennod yn llyfr yr Actau, ni a gawn hanes Pedr yn agor drws y deyrnas i'r Cenedloedd. Dacw fe yn myned a'r agoriad mawr ar ei ysgwydd tua Cesarea, yn ei roi yn y drws, ac yn agor teyrnas nefoedd i'r Cenedloedd; ac y mae yn agored hyd heddyw, a chroes- aw i bawb i fyned i mewn ar eu hedifeir- wch. Y mater yr ydym yn bwriadu galw eich sylw ato ydyw, diwygiad ty Cor- NELIUS YN GYNLLUN O DDIWYGIAD CREF- yddol. Y mae llawer o son am ddiwygiad yn y dyddiau hyn ; y mae llawer o weddio a dysgwyl am ddiwygiad yn mhlith pobl Dduw. Y mae y diwygiad wedi tori allan yn nerthol mewn ìhai manau, ac y mae y " sŵn yn mrig y morwydd yn galw am i ninnau ymegnio ;" eithr fel y mae dyn yn agored i lygru, a cham- ddefnyddio pob peth braidd, y mae yn agored i wneyd felly â'r diwygiad. Y mae yn berygíus i ni fyned i arfer modd- ion annghyfreithlon, moddion ag sydd yn y diwedd yn sicr o iselhau ein crefydd yn ngolwg pob dyn, ac yn ei darostwng yn awr yn ngolwg dynion o ddygiad i fyny da, a chwaeth goethedig. I'n cadw ar y naill law i weddio ac ymdrechu gyda Duw am y "dylanwadau achub- ol;" ac ar y llaw arall rhag arfer moddion annheilwng o'n Duw a'n cref- ydd, rhag rhoddi achos i elynion yr Arglwydd gablu, y mae yn fuddiol i ni sylwi yn bwyllog ar "Ddiwygiad tý Cornelius;" canys os gwelodd yr An- feidrol yn ddoeth i sefydlu Cristionog- aeth yn y byd trwy ddiwygiad, y mae yn naturiol i ni ddysgwyl yinweliadau cyffelýb wrth gario Cristionogaeth yn mlaen yn y byd. Y mae hanes sefydliad Cristionogaeth yn mhlith y Cenedîoedd yn ddyddorol ynddo ei hunan, eithr fel y mae yn gynllun o ddiwygiad Cristion- ogol yn mhob oes o'r byd, y mae yn bwysig iawn. Yn i. y peth cyntaf yn ei berthynas a diwygiadtyCornelius,ydoeddgweddi. Yn ei pherthynas â'r diwygiad hwn y mae gweddi yn cyrr.rûeryd íle mawr, ac