Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL RHAGFYR, 1859. Y BEDYDDWYR YN AMSER LUTHER. Ddarllenydd hoff.—Dichon dy fod, fel fy hunan, wedi clywed lawer gwaith am Luther, a'i ymdrechion i wrthweithio dylanwad Pabyddiaeth yn Germani, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac yn ngwres y ganmoliaeth a roddid iddo, i ti glywed mai Pabyddion oedd pawb yn y wlad y pryd hyny, ac mai Luther oedd yr unig un a godai ei lais yn erbyn "y dyn pechod." Haerir hyn gan ddynion a ddylent wybod gwell pethau. Dy wedai ÿ dyn da ac enwog hwnw, y Parchedig Ddr. James, Periglor Panteg, Mynwy, hyn yn ddiweddar, yn ei annerchiad yn Nghyfarfod Cymdeithas y Beiblau, yn Llangollen ; a chan ei fod ef, a dynion ereill o enwogrwydd yn dweyd y fath beth, y mae yr annghyfarwydd yn meddwl mai felly yr oedd pethau. Yn awr, ddarllenydd, dodir ger dy fron rai ffeithiau a ddangosant i ti yn amgenach. Gan mai desgrifiad o bethau wedi myned beibio yw hanesiaeth, wrth gwrs y mae y ffeithiau i'w cael mewn llyfrau hanes- yddol, ac felly, os na fydd yr hyn a ys- grifenir yn wirionedd, bydd yn hawdd ì'r neb a ewyllysio ei wrthbrofi. Cadwer y ddau beth hyn mewn cof. 1. Nad ydym i farnu yr holl Fedyddwyr wrth yr hÿn a ddywedeu gelynion am rai o honynt. Sonia D'Aubigne gyda gwat- warwêu dosturiol am un Thomas Schu- clcer, yr hwn a ddienyddiwyd yn 1526; ond nid wrth ymddygiadau hwnw a'r cyffelyb y mae Bedyòdwyr Germani i gael eu barnu, yn fwy nag y mae cym- meriad Iago ac Ioan, Pedr a Phaui, i gael eu barnu wrth ymddygiad Iudas Iscariot, yr hwn a aeth ac a ynigrogodd. 2. Nad ydyw fod Luther yn eu con- demnio, fw gymmeryd fel prawf eu bod yn ddynion drwy. Yr oedd Hawer o rin- weddau yn Luther, a mawredd a gwrol- deb nodedig yn perthyn iddo; ond nid oedd yn ddigoli. Er ei fod yn taranu yn erbyn y Pab, eto, gwir nad ellir ei wadu y w, ei fod yn drahaus ei hun ; yr oedd am gael ei ffordd ei hun; ni roddai i fyny mewn dadl pan y byddai yn eglur ei fod o'i le; dywedai am y swper " y byddai yn well ganddo dderbyn dim oud gwaed gyda'r Pab, na derbyn dim ond gwin gyda Zwîngle."* Dywed * D'Aubìgne's Hist, vol. ü. p. 135. D'Aubigne na fu erioed y fath ystyfnig- rwydd ag eiddo Luther pan yn dadlu â Zwingle ar y swper,—ei fod yn bender- fynol yn ei olygiadau ei hun,—mai ych- ydig sylw a dalai i resymau ei wrthwyn- ebwyr,—a'i f'od yn amddifad o gariad brawdol yn priodoli yr hyn a ystyriai eu cyfeiliornadau i lygredd eu calon neu ddichellion y diafol.* Na ryfedded y darllenydd, ynte, os ydyw Luther yn condemnio yr Ailfedyddwyr (?), a chyn llyncu ei ddedfryd, cbwilied "a ydyw y pethau hyn felly." Yn awr, yr ymofyniad yw, A oedd gan Dduw dystion yn sefyll i fyny dros ei achos ef, ac yn erbyn llygredigaethau Pabyddiaeth yn Germani cyn ymddang- osiad Luther? Dywed hanesiaeth eg- Iwysigfod. Dywed Mosheim yn ei han- esiaeth fod eglwysi Cristionogol yn bod- oli yn y drydedd ganrif yn Cologne, Treves, Mentz, a lleoedd ereill.f Ym- ddengys fod Cristionogaeth wedi ei chadw yn Germani o'r pryd hwn hyd y diwygiad gan bersonau a ystyrid yn heretieiaid gan deulu Rhufain. Ym- ddengys fod lìawer o Fedyddwyr yn y Cyfandir yn y canol oesau, oblegyd dywedir y gallai pregethwyr teithiol y Bedyddwyr, yn eu teithiau yn y nawfed ganrif, fyned trwy holl ymerodraeth Germani, a lletya bob nos yn nhý un o'u cyfeillion.î Dichon mai y Pauliciaid oedd y rhai hyn, y rhai a alwai y Pab- yddion yn " bregethwyr yr Ailfedydd- wyr." 4 Yn yr unfed ganrif ar ddeg, yr oedd y Pauliciaid yn dra lliosog; condemniai eu gelynion hwy fel hereticiaid, am eu bod yn ymwrthod âg ynfydrwydd "y dyn pechod." Dywed Mosheim fod hyd y nod eu gelynion yn cydnabod didwyll- edd eu duwioldeb, a'u bod yn cael eu duo gan gyhuddiadau ngoedd yn dwyll- odrus; mai eu bai oedd eu bod yu ym- wrthod â seremoniau allanol, ac yn dal mai peth rhwng enaid dyn a Duw yw crefydd. Yr oeddynt mewn modd neill- duol yn gwrthod bedydd babanod. ac oblegyd eu bod yn gwrthod bedydd babanod Rhufain, cyhuddid hwy weith- * Ibid. p. 137. t Mosb.'s Hist., Dr. Maclaiue's Translation. toI. i. p. 68. % Orchard's Hist. of Foreign Baptists, p. 313. 34