Skip to main content

Y GBEAL. TACHWEDD, 1859. ADGOFION AM Y DIWEDDAR JOHN EVANS, LLANWYDDEN, GER LLANDÜDNO. Ganwyd a magwyd yr anwyl-ddyn hwn ar fryn prydferth yn ymyl Tal y cafn, yn mhfwyf Eglwysfach, o'r enw Penyriardor (Penoddiarddwr). Y mae Penyriardor yn sefyll ar lechwedd goed- iog i fryn uchel ar ochr afon Gynwy, ac yn meddu golygfeydd prydferth a niawr- eddus, a rhai manau hynod i'r hyuaf- ieithydd, megys yr hen brif-flòrdd o'r Iwerddon i Lundain, dros Fwlch y ddau faen o Beaumaris ac Abergwyngregyn, a thros y Gynwy islaw Caerhen, (hen orsaf Rufeinig a alwent Cnofium) yn Mhorth Hywel Goch, at Lansanan a Dinbych, heibio i Ruthyn dros Fwlch y Rhiwfelen, o dan greigiau yr Eglwyseg heibio i Gastell Dinas brân, dros bont Gwenhwyfyr, hanner milltir o dan Llan- gollen, a thros drwyn Dwyreiniol Ber- wyu faith, heibio i Gasiell y Waen at Groesyswallt, ac i'r Amwythig, hen Bengwern y Cymry. Yr oedd y goleu- fryn, ar yr hwn y safai Penyriardor, yn meddu y golygfeydd tirionaf ar ddyffryn bychan prydferth Eglwysfach, ac i fyny ar ddyffryn Cynwy at Lanrwst, ac i lawr at Abercynwy; a bryniau Llansantffraid i'r Gogledd-ddwyrain, a mynyddoedd oesol Arfon at Foel siabod, a'r Wyddfa i'r De-orllewin. Os gwir fod gan olygfeydd mawreddus ddylanwad ar y meddwl ifanc, i'w ëangu a'i fawrhau, cafodd John Evans y fantais hon yn arbenigol. Yr oedd gan wrth- ddrych ein hadgofion ewythr o grefydd- wr synhwyrol, profiadol, a gweithgar, yn byw yn Mrynmeirig, oddiar y Fforddlas, ac yn aelod yn yr hen fam eglwys hòno. Fe ddichon mai hwn a fu yn foddion, fel Phylip gyda Nathanael, i gael J. Evans i wrando gair Duw, ac i adnabod ffordd tangnefedd, santeiddrwydd, a bywyd trwy fiỳdd yn íesu Gr'st. Ymddengys i J. E. ymuno âg eglwys Salem, Ffordd- las.yn ei ieuengtyd. Hen eglwys hynod oedd hon am ddynion diniwaid, o brofiad duwiolach na chyffredin, a chryn ym- drechol i ledaenu yr achos. Bu amr\ w- iol o weinidogion rbagorol arni o fewn cof i'r ysgrifenydd, megys T. R. Davies; John Roberts, LlansHin; H. Jones, Rhuthyn; Owen Michael, William Rob- erts, Benjamin Davies, ac yn awr y mae yr addfwyn a'r cariadus William Roberts wedi dychwelyd yno yn ol, megys at briod ei ieuengtyd. Gan fod John Evans yn ŵr ifanc o synwyr cyffredin cryf, cadarn yn yr Ysgrythyrau, hedd- ychol a duwiol ei ymarweddiad, dewis- wyd ef yn ddiacon yn yr eglwys, ac yn mhen ryw ysbaid wedi hyny yn bregeth- wr. Priododd Margaret, gweddw Robert Roberts, Llanwydden, gweinidog Salem, Fforddlas. Rhyw gerub tanllyd oedd R. R. tra y bu yn y weinidogaeth yn ymdrechu â'i holl allu mewn pob modd i ogoneddu Crist, trwy ddwyn eneidiau ato, a lledaenu ei efengyl drwy y cym- mydogaethau. Efe, ond odid, a ddech- reuodd bregethu gyda y Bedyddwyr gyntafyn Llandudno, a rhai canghenau ereill a fu yu perthynu i Salem. Yr oedd ei bregethau yn dra gwresog, a'i wrol- deb yn fawr. Pan oedd unwaith yn bedyddio yn afon Gynwy, o dan y Story- sau, rhwng Teganwy a'r Fferi, ar ben llanw, a holl fadau tre Gynwy wedi trefnu eu hunain yn hanner cylch o'i amgylch; pob bâd yn llawn, a phob taf'od yn llefaru o helaethrwydd calon ddrwg, hyd nes tybíai ei fod yn nghanol gwallgofdy; a'r ychydig gyfeillion ar y làn yn gofidio, atn na allasent gael tawei- wch i'r gweinidog i ddweyd tipyn am fedydd dyoddef'ul eu Harglwydd gogon- eddus. Eithr ymddangosai iddynt fod mor hawdd tawelu ytnchwydd y môr, a dystewi dadwrdd anwatiaid Cynwy. Wedi i'r Bedyddiwr ddewis ei le i fed- yddio, troes ei wyneb at floeddwyr y badau, a dywedodd, " Gosteg, yn enw Brenin y nefoedd.'' Ond dywedai pobl Cynwy, yn eu hymddygiad, " Hwnw nid adwaenom." Yr oedd eu baldordd yn llawn uwch. Rhoddodd y gweinyddwr ei law yn llogell ei fynwes, a thynodd allan ei drwydded i bregethu, gan ei ehodi i'w golwg, a llefodd eilwaith, " Gosteg, yn enw George y trydydd." Distawodd pob tafod, a gwrandawodd Eob clust, a chafwyd hamdden i lefaru a edyddio wrth fodä y nefoedd. Yr oedd 31